Adnewyddu eich trwydded yrru feddygol tymor byr
Gallwch adnewyddu eich trwydded yrru feddygol tymor byr cyn belled:
- bod gennych un oherwydd cyflwr meddygol
- ei bod yn ddilys am 1, 2, 3 neu 5 mlynedd
- ei bod ar fin dod i ben, neu wedi dod i ben
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Adnewyddu ar-lein
Ar hyn o bryd, gallwch dim ond adnewyddu ar-lein os oes gennych ddiabetes, epilepsi, clefyd Parkinson, nam ar eich golwg, cyflwr cwsg, neu gyflwr y galon.
Bydd gennych un awr i ychwanegu gwybodaeth unwaith eich bod wedi dechrau. Ni allwch arbed a dychwelyd at eich cais yn ddiweddarach.
Cynnwys
Oedi os caiff eich cais ei gyfeirio at feddyg
Efallai y bydd eich cais yn cymryd yn hirach na’r arfer os bydd angen ei gyfeirio at feddyg (oni bai eich bod yn gwneud cais am drwydded bws neu lori).
Os oes gennych drwydded yrru gyfredol ac nad yw’ch meddyg neu optegydd wedi dweud wrthych na ddylech yrru, efallai y byddwch yn gallu gyrru tra bod DVLA yn ystyried eich cais. Darllenwch ‘Gaf i yrru tra mae fy nghais gyda’r DVLA?’ am ragor o ganllawiau.
Pwy na all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:
- adnewyddu trwydded lawn neu dros dro am gar neu feic modur - defnyddiwch y gwasanaeth adnewyddu eich trwydded yrru yn lle
- adnewyddu trwydded yrru lawn neu dros dro am fws mini, bws, coets neu lori - archebwch ffurflenni D2/D4 wrth DVLA yn lle
- newid yr enw ar eich trwydded yrru - cysylltwch â DVLA yn lle
- adnewyddu trwydded yrru a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
Defnyddiwch wasanaeth arall i wneud cais am drwydded yrru os yw eich trwydded wedi ei thynnu yn ôl neu eich bod wedi’i ildio oherwydd cyflwr meddygol.
Gallwch hefyd adnewyddu eich trwydded yrru feddygol tymor byr drwy’r post. Bydd DVLA yn anfon ffurflen atgoffa atoch 90 diwrnod cyn i’ch trwydded ddod i ben.
Os na fyddwch yn derbyn ffurflen atgoffa, dylech archebu ffurflen D1W, a lawrlwytho a llenwi’r ffurflenni meddygol ar gyfer eich cyflwr. Anfonwch nhw i gyd i DVLA - mae’r cyfeiriad ar y ffurflenni.