Gwneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf
Cael eich trwydded yrru dros dro gyntaf am gar, beic modur, moped neu gerbyd arall wrth DVLA ar-lein. I wneud cais mae’n rhaid ichi:
- fod o leiaf 15 mlwydd a 9 mis oed
- gallu darllen plât rhif o 20 metr i ffwrdd
- bod wedi cael caniatâd i fyw ym Mhrydain Fawr (Lloegr, Cymru a’r Alban) am o leiaf 185 diwrnod
Mae’n costio £34 pan rydych yn gwneud cais ar-lein.
Os gwnaethoch gais am drwydded yrru dros dro cyn 1 Mawrth 1973 bydd angen ichi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gael trwydded newydd.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn i chi ddechrau
Bydd arnoch angen:
- dogfen adnabod, fel eich pasbort
- cyfeiriadau lle rydych wedi byw am hyd at y 3 blynedd diwethaf
Efallai y gofynnir ichi am wybodaeth ychwanegol, fel eich rhif Yswiriant Gwladol os ydych yn ei wybod.
Byddwch yn cael e-bost cadarnhau wrth DVLA ar ôl ichi wneud cais.
Dylai eich trwydded gyrraedd o fewn un wythnos os ydych yn gwneud cais ar-lein. Gall gymryd yn hirach os oes angen i DVLA wneud gwiriadau ychwanegol.
Y gost
Mae’n costio £34 i wneud cais ar-lein. Gallwch dalu drwy gerdyn debyd neu gredyd MasterCard, Visa, Electron neu Delta.
Pryd rydych chi’n gallu gyrru â thrwydded dros dro
Mae rheolau gwahanol gan ddibynnu ar eich oed a’r math o gerbyd. Gwirio pa gerbydau rydych chi’n gallu eu gyrru a phryd cyn ichi ddechrau dysgu.
Os oes gennych drwydded dros dro yn barod
Os oes gennych drwydded dros dro yn barod, gallwch:
- adnewyddu eich trwydded dros dro
- amnewid eich trwydded yrru dros dro os yw ar goll, wedi’i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio
- ailymgeisio am eich trwydded yrru dros dro os ydych wedi cael eich gwahardd
- newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru dros dro
Gwneud cais drwy’r post
Llenwch ffurflen D1W ‘Cais am drwydded yrru’, ar gael o’r gwasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu’r rhan fwyaf o’r Swyddfeydd Post.
Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad ar y ffurflen, ynghyd â siec neu archeb bost am £43.