Datganiad i'r wasg

Ceir mawreddog a cheir bri drud iawn ymhlith y rhai a ddaliwyd heb dreth cerbyd

Mae Rolls Royce, Ferrari, Aston Martin a Lamborghini ymhlith y ceir brand mawreddog a glampiwyd y llynedd am beidio cael treth cerbyd dilys, yn ôl y ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y DVLA.

Prestige and high-end supercars among those caught with no vehicle tax

Y llynedd, cafodd mwy na 118,000 o gerbydau eu clampio neu atafaelu gan dimau gorfodaeth yn gweithio ar ran y DVLA. Mae rhai o’r gwneuthuriadau mawreddog a glampiwyd neu a atafaelwyd yn cynnwys:

Gwneuthuriad Cyfanswm a glampiwyd/atafaelwyd
Porsche 137
Bentley 12
Daimler 11
Aston Martin 10
Maserati 10
Tesla 7
TVR 6
Rolls Royce 3
Ferrari 2
Lamborghini 2

Mae’r cerbydau a gafodd eu clampio amlaf yn adlewyrchu rhai o’r modelau sy’n gwerthu fwyaf yn y DU. Y Ford Focus a’r Vauxhall Astra sydd ar frig y rhestr gyda mwy na 5,000 o bob un ohonynt yn cael eu clampio neu eu hatafaelu. Ymhlith y cerbydau eraill gafodd eu clampio roedd 68 Tacsi Llundain, 2 gartref modur Gulf Stream, tractor a 3 Reliant Robin.

Cafodd mwy na 30,000 o geir arian eu clampio neu atafaelu, oedd yn golygu mai cerbydau arian gafodd eu clampio amlaf.

Y 10 lliw cerbyd a gafodd eu clampio fwyaf oedd:

Lliw Cyfanswm a glampiwyd/atafaelwyd
Arian 30,035
Glas 23,411
Du 21,270
Gwyn 12,314
Coch 10,731
Llwyd 10,219
Gwyrdd 5,997
Melyn 732
Llwydfelyn 710
Aur 696

Dywedodd Bethan Beasley, Rheolwr Cenedlaethol Clampio Olwynion y DVLA:

Mae ein timau gorfodaeth yn crwydro’r ffyrdd ar hyd a lled y DU trwy gydol y flwyddyn. Mae eu faniau yn cynnwys camerâu adnabod platiau rhif, sy’n golygu fod unrhyw gerbyd heb ei drethu mewn perygl o gael ei glampio neu ei atafaelu.

Ni ddaw’r rhan fwyaf o yrwyr fyth ar draws ein timau clampio gan fod mwy na 98% o’r cerbydau ar y ffordd yn cael eu trethu’n gywir. Fodd bynnag, bydd rhaid i unrhyw un sy’n mentro defnyddio cerbyd heb dreth ar y ffordd ymdopi â chost ac anghyfleustra eu cerbyd yn cael ei glampio neu ei atafaelu.

Ni fu erioed yn haws trethu eich cerbyd – nid yw’n cymryd ond ychydig funudau i’w wneud ar-lein, a chan y gellir talu treth cerbyd trwy Ddebyd Uniongyrchol erbyn hyn, gellir rhannu taliadau dros 12 mis, felly does dim esgus mewn gwirionedd.

Nodiadau i olygyddion:

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 27 September 2017