Gwirio’ch Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol
Mae’r gwasanaeth hwn yn cwmpasu’r flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025).
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:
- gwirio’ch cod treth a’ch Lwfans Personol
- gweld eich incwm amcangyfrifedig o unrhyw swyddi a phensiynau a’r dreth y gallwch ddisgwyl ei thalu ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
- diweddaru manylion eich incwm o swyddi a phensiynau — mae’n bosibl y byddwch yn talu gormod o dreth neu ddim digon ohoni os nad ydyn nhw’n gyfoes
- gweld a yw’ch cod treth wedi newid
- rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am newidiadau sy’n effeithio ar eich cod treth
- diweddaru manylion eich cyflogwr neu fanylion darparwr eich pensiwn
Ni allwch wirio’ch Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol os ydych yn talu Treth Incwm drwy Hunanasesiad yn unig.
Cyn i chi ddechrau
I wirio’ch Treth Incwm, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Os nad oes gennych gyfrif treth personol
Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn creu cyfrif treth personol. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol neu’ch cod post arnoch, a dau o’r canlynol:
-
pasbort dilys y DU
-
trwydded yrru cerdyn-llun y DU, a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)
-
slip cyflog o’r tri mis diwethaf neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
-
manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un
-
manylion o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad (yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf), os cyflwynoch un
-
gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (fel benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)
Gwirio’ch Treth Incwm
Os na allwch greu cyfrif treth personol
Cysylltwch â CThEF am gyngor os na allwch greu cyfrif treth personol.
Gallwch hefyd amcangyfrif faint o Dreth Incwm y dylech ei thalu’r flwyddyn hon (yn Saesneg) heb fewngofnodi.
Gwirio treth ar gyfer blynyddoedd blaenorol
Mae ffordd wahanol o wirio faint o Dreth Incwm a daloch y llynedd (6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024).
Gallwch hefyd amcangyfrif faint y dylech fod wedi’i dalu ar gyfer blwyddyn flaenorol (yn Saesneg) heb fewngofnodi.