Budd-dal Plant ar gyfer plant sydd yn yr ysbyty, mewn gofal neu mewn llety preswyl
Efallai y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn cael eu heffeithio os bydd eich plentyn yn mynd:
- i ofal am fwy na 8 wythnos
- i ysbyty neu ‘lety preswyl’ am fwy nag 12 wythnos
Telir am lety preswyl (a elwir yn ‘ofal preswyl’ o bryd i’w gilydd) gan eich cyngor lleol, fel arfer oherwydd bod gan eich plentyn anabledd meddyliol neu gorfforol. Mae’n wahanol i ‘ofal’ gan eich bod yn dal i fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am eich plentyn.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF), os bydd hyn yn digwydd. Gallwch wneud hyn:
- drwy lenwi ffurflen ar-lein
- drwy gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF dros y ffôn neu drwy’r post
Seibiannau yn ystod arhosiad yn yr ysbyty
Os bydd y plentyn yn mynd yn ôl i’r ysbyty o fewn 28 diwrnod o’i adael, bydd cyfanswm yr amser a dreuliodd yn yr ysbyty yn dal i gyfrif tuag at y terfyn o 12 wythnos.
Ar ôl 8 neu 12 wythnos
Fel arfer, nid oes hawl gennych i Fudd-dal Plant mwyach ar ôl y terfyn amser. Mae yna eithriadau i’r rheol hwn, er enghraifft:
- ar gyfer plant mewn gofal – os ydynt yn treulio o leiaf 24 awr yr wythnos gartref
- ar gyfer plant mewn ysbyty yn y DU neu lety preswyl – os ydych yn gwario arian arnynt yn rheolaidd
- ar gyfer plant mewn ysbyty tramor – os aethant dramor dim ond i fod yn yr ysbyty a’ch bod chi yn ôl yn y DU ac yn gwario arian arnynt yn rheolaidd
Dim ond os ydych yn briod neu’n bartner sifil a’ch bod yn byw gyda’ch gilydd y bydd arian eich partner yn cyfrif.
Gwirio gyda CThEF i ddysgu a yw eithriadau yn berthnasol i chi.
Efallai y byddwch yn gallu hawlio Budd-dal Plant eto os yw’r plentyn mewn gofal ond mae’n treulio 2 noson yn olynol bob wythnos neu 7 diwrnod neu fwy yn olynol gartref. Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i ddysgu am yr hyn i’w wneud nesaf.