Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Mabwysiadu

Mae gan gyflogeion cymwys hawl i absenoldeb a thâl tadolaeth os ydynt yn mabwysiadu plentyn.

Cyfrifwch absenoldeb a thâl tadolaeth cyflogai drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell ar gyfer cyfnodau mamolaeth a thadolaeth (yn Saesneg). Ar gyfer mabwysiadau tramor, bydd angen i chi ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres (os yw’n cynnwys y nodwedd hon) neu ei gyfrifo â llaw (yn agor tudalen Saesneg).

Cymhwystra

Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am gyflogai sy’n mabwysiadu plentyn:

  • mae wedi’i gyflogi’n barhaus gennych (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos y cafodd ei baru â phlentyn (mabwysiadau yn y DU)
  • mae wedi’i gyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos erbyn naill ai’r diwrnod y mae’r plentyn yn cyrraedd y DU neu’r diwrnod y mae’n dymuno i’w dâl ddechrau (mabwysiadau tramor)
  • mae’n cadarnhau bod ei bartner yn cael Tâl Mabwysiadu Statudol naill ai ar bapur neu drwy roi copi i chi o ffurflen SC6 ei bartner
  • mae’n bodloni’r amodau cymhwystra eraill ar gyfer absenoldeb neu dâl tadolaeth

Cyfnod rhybudd

Mae’n rhaid i gyflogai sy’n mabwysiadu plentyn anfon ffurflen SC4 atoch ar gyfer:

  • absenoldeb – cyn pen 7 diwrnod, fan bellaf, i’r dyddiad y mae ei gyd-fabwysiadwr neu bartner yn cael ei baru â phlentyn
  • tâl – 28 diwrnod cyn y dyddiad y mae’n dymuno i’w dâl ddechrau

Ar gyfer mabwysiadau tramor, mae’r ffurflen a’r cyfnod rhybudd yn wahanol. Mae’r broses yn cael ei hesbonio ar ffurflen SC5.

Dyddiad dechrau’r absenoldeb

Mae cyflogai sy’n cymryd absenoldeb tadolaeth oherwydd ei fod yn mabwysiadu yn gallu dechrau ei absenoldeb:

  • ar y dyddiad lleoli
  • nifer gytunedig o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad lleoli
  • ar y dyddiad y mae’r plentyn yn cyrraedd y DU, neu nifer gytunedig o ddiwrnodau ar ôl hyn (mabwysiadau tramor)

Ar gyfer mabwysiadau tramor, mae’n rhaid cymryd absenoldeb cyn pen 56 diwrnod i’r dyddiad lleoli neu’r dyddiad y mae’r plentyn yn cyrraedd y DU.

Tystiolaeth o fabwysiadu

Mae’n rhaid i gyflogeion roi tystiolaeth o fabwysiadu i chi er mwyn bod yn gymwys ar gyfer tâl tadolaeth. Does dim angen tystiolaeth ar gyfer absenoldeb tadolaeth oni bai eich bod yn gofyn am hyn. Gall tystiolaeth fod yn llythyr gan yr asiantaeth fabwysiadu neu’n dystysgrif baru.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r dystiolaeth.