Dod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
Cewch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) pan fyddwch yn:
-
cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
-
sefydlu cwmni cyfyngedig
Mae ar ffurf rhif 10 digid. Efallai y cyfeirir ato fel ‘cyfeirnod treth’.
Byddwch yn cael eich UTR drwy’r post 15 diwrnod ar ôl i chi gofrestru. Gall hyn gymryd yn hirach os ydych yn byw dramor.
Fel arfer, gallwch weld eich UTR yn gynt yn eich Cyfrif Treth Personol neu ar ap CThEF.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Ble i ddod o hyd i’ch UTR
Mae’ch UTR i’w weld:
-
yn eich Cyfrif Treth Personol
-
ar ap CThEF
-
mewn Ffurflenni Treth blaenorol a dogfennau eraill gan CThEF (er enghraifft, hysbysiadau i gyflwyno Ffurflen Dreth neu nodynnau i’ch atgoffa i dalu)
Cael help gan CThEF
Os na allwch ddod o hyd i’ch UTR mewn unrhyw ddogfennau nac ar-lein, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Os oes gennych gwmni cyfyngedig, gallwch ofyn am eich UTR ar gyfer Treth Gorfforaeth ar-lein. Bydd CThEF yn ei anfon i’r cyfeiriad busnes sydd wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau.