Eithrio allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
Beth oedd eithrio allan
O dan reolau Pensiwn y Wladwriaeth cyn 2016, gallai eich cynllun pensiwn gweithle neu breifat ddewis ‘eithrio allan’ o’r Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth. Roedd Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth hefyd yn cael ei alw’n Ail Bensiwn y Wladwriaeth neu ‘SERPs’.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Os cawsoch eich eithrio allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, roedd rhai o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol naill ai:
- yn is na phobl nad oeddent wedi eu heithrio allan
- yn cael eu talu i bensiwn arall, er enghraifft pensiwn gweithle neu breifat
Gwiriwch sut mae eithrio allan yn effeithio ar eich swm.
Daeth yr holl eithrio allan i ben ar 5 Ebrill 2016. Wedi hyn, mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y gyfradd safonol nes i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.