Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi penderfyniad caniatâd datblygu Piblinell Carbon Deuocsid HyNet

Heddiw, 20 Medi 2023, mae cais Piblinell Carbon Deuocsid HyNet wedi cael caniatâd datblygu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net

Mae’r Prosiect yn cynnwys piblinell carbon deuocsid (CO2) newydd a fydd yn cludo CO2 a gynhyrchir ac a gasglwyd gan gyfleusterau cynhyrchu hydrogen yn y dyfodol a safleoedd diwydiannol presennol yng Ngogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru ar gyfer storio alltraeth. 

Cyflwynwyd y cais i’r Arolygiaeth Gynllunio i’w ystyried gan Liverpool Bay CCS Limited ar 03 Hydref 2022 a’i dderbyn i’w Archwilio ar 31 Hydref 2022. 

Yn dilyn Archwiliad lle rhoddwyd cyfle i’r cyhoedd, Ymgynghoreion Statudol a Phartïon â Buddiant roi tystiolaeth i’r Awdurdod Arholi, roedd argymhellion eu gwnaed i’r Ysgrifennydd Gwladol ar 20 Rhagfyr 2023. 

Dyma’r 80fed cais ynni allan o 135 o geisiadau a archwiliwyd hyd yma ac fe’i cwblhawyd eto gan yr Arolygiaeth Gynllunio o fewn yr amserlen statudol a osodwyd yn Neddf Cynllunio 2008. 

Mae cymunedau lleol yn parhau i gael y cyfle i gymryd rhan yn y gwaith o archwilio prosiectau a allai effeithio arnynt. Llwyddodd pobl leol, yr awdurdod lleol a Phartïon eraill â Buddiant i gymryd rhan yn yr Archwiliad chwe mis hwn. 

Gwrandawodd yr Awdurdod Archwilio a rhoddodd ystyriaeth lawn i’r holl safbwyntiau lleol a’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr Archwiliad cyn gwneud ei argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol. 

Mae’r penderfyniad, yr argymhelliad a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net a’r dystiolaeth a ystyriwyd gan yr Awdurdod Archwilio wrth gyrraedd ei argymhelliad ar gael i’r cyhoedd ar dudalennau’r prosiect ar wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol

Dylai newyddiadurwyr sydd eisiau rhagor o wybodaeth gysylltu â’r Swyddfa Wasg yr Arolygiaeth Cynllunio ar 0303 444 5004 neu 0303 444 5005 neu e-bostiwch: Press.office@planninginspectorate.gov.uk

Cyhoeddwyd ar 20 March 2024