Adrodd yn wirfoddol ar anabledd, iechyd meddwl a lles
Mae'r fframwaith hwn yn cefnogi cyflogwyr i adrodd yn wirfoddol ar anabledd, iechyd meddwl a lles yn y gweithle.
Dogfennau
Manylion
Mae’r llywodraeth yn credu y gall tryloywder ac adrodd gefnogi’r newid diwylliannol sy’n ofynnol i adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol.
Mae’r fframwaith adrodd gwirfoddol wedi’i ddatblygu gan y llywodraeth mewn partneriaeth â busnesau blaenllaw a sefydliadau’r trydydd sector i gynorthwyo cyflogwyr i adrodd yn wirfoddol am wybodaeth am anabledd, iechyd meddwl a lles yn y gweithle.
Mae wedi’i anelu at sefydliadau sydd â dros 250 o weithwyr, ond gall cyflogwyr o unrhyw faint eu defnyddio.
Mae’r fframwaith hefyd yn nodi:
- manteision mwy o dryloywder yn y gweithle
- arweiniad ar sut y gellir casglu data, a lle y gellir ei adrodd
- dolenni i gefnogaeth bellach