Gwneud cais ar gyfer gorchymyn dirprwyaeth eiddo a materion ariannol
Defnyddiwch y canllaw hwn os ydych yn gyfreithiwr, yn weithiwr proffesiynol, yn awdurdod lleol neu eu cynrychiolydd, i wneud cais am orchymyn dirprwyaeth eiddo a materion ariannol
Gwneud cais am orchymyn dirprwyaeth eiddo a materion ariannol fel cyfreithiwr, gweithiwr proffesiynol, awdurdod lleol neu eu cynrychiolydd
Mae’r canllaw hwn ar gyfer defnyddwyr proffesiynol yn unig, cewch wybod sut i wneud cais i ddod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol i chi’ch hun.
I wneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol mae arnoch angen:
-
Dweud wrth y person rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddo. Gofyn iddynt lenwi’r ffurflenni perthnasol.
-
Dweud wrth o leiaf 3 person sy’n gysylltiedig â’ch cais. Gofyn iddynt lenwi’r ffurflenni perthnasol.
-
Llenwi’r ffurflenni sy’n weddill.
-
Cyflwyno’r ffurflenni ar-lein neu drwy’r post.
Mae disgwyl i chi gyflwyno’r ffurflenni ar-lein. Dim ond os na allwch eu cyflwyno ar-lein y dylech gyflwyno’r ffurflenni drwy’r post.
Dweud wrth y person rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddo
Rhaid i chi neu’ch cynrychiolydd ymweld â’r person a dweud wrthynt:
-
pwy sy’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
-
bod eu gallu i wneud penderfyniadau yn cael ei gwestiynu
-
beth fyddai cael dirprwy yn ei olygu iddyn nhw
-
ble i gael cyngor os ydynt eisiau trafod y cais
Yn ystod yr ymweliad mae’n rhaid i chi roi iddynt:
-
y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep) - bydd angen i chi lenwi adrannau hysbysu’r ffurflen ac fe allan nhw lenwi’r adran gydnabod os ydynt yn gallu
-
ffurflen gydnabod (COP5) - os ydynt yn gallu, bydd angen iddynt lenwi’r ffurflen hon os ydynt am wrthwynebu’r cais neu ddarparu tystiolaeth yn ei erbyn
-
unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’ch cais
Os ydynt yn gallu, dylent lenwi’r ffurflen o fewn 14 diwrnod. Os nad ydynt yn gallu, yna fe allwch anfon y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep) yn ôl gyda’r adrannau hysbysu’n unig wedi’u llenwi.
Dweud wrth bobl sy’n gysylltiedig â’ch cais
Rhaid i chi ddweud wrth o leiaf 3 person sy’n adnabod y person rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddo am eich cais. Er enghraifft, perthnasau, gweithiwr cymdeithasol neu feddyg y person.
Anfonwch atynt:
-
hysbysiad y bydd ffurflen gais yn cael ei chyhoeddi (COP15PADep)
-
ffurflen gydnabod (COP5) - bydd angen iddynt lenwi’r ffurflen hon os ydynt am wrthwynebu’r cais neu ddarparu tystiolaeth yn ei erbyn
-
unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’ch cais
Gallwch ddweud wrthynt:
-
drwy’r post i’w cyfeiriad cartref
-
drwy e-bost
-
wyneb yn wyneb
Os na allwch ddweud wrth 3 o bobl, yna dylech anfon datganiad tyst (COP24) i’r Llys Gwarchod gyda’ch ffurflenni eraill.
Mae angen iddynt ddychwelyd y ffurflenni i chi o fewn 14 diwrnod iddynt eu cael. Os na fyddwch wedi cael y ffurflenni ar ôl 14 diwrnod, yna gallwch wneud cais hebddynt.
Ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi
Mae’r ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi yn dibynnu ar p’un a ydych yn cyflwyno’r ffurflenni ar-lein neu drwy’r post.
Mae’n rhaid i chi lenwi ac anfon y ffurflenni o fewn 3 mis ichi ddweud wrth y bobl sy’n gysylltiedig â’ch cais. Os na fyddwch yn gwneud hyn, yna bydd rhaid i chi ail-ddechrau’r broses.
Dylech gadw copi o bob ffurflen rydych yn ei llenwi ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Mae angen i bob ceisydd lenwi:
-
ffurflen wybodaeth ategol (COP1A) oni bai eich bod yn ateb y cwestiynau ariannol ar y ffurflen ar-lein
-
ffurflen gydnabod (COP5), os cafodd ei dychwelyd i chi
Efallai na fydd y llys yn derbyn eich cais os na fyddwch yn anfon y ffurflen ‘asesu galluedd’ (COP3).
Os na allwch gael asesiad, rhaid i chi lawrlwytho a llenwi datganiad tyst (COP24) i egluro pam rydych chi’n meddwl nad oes gan y person rydych chi’n gwneud cais ar ei gyfer alluedd meddyliol.
Os ydych yn cyflwyno ffurflenni ar-lein
Os ydych wedi hysbysu’r unigolyn am eich cais, yna bydd angen i chi gyflwyno’r ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep).
Os ydych yn cyflwyno ffurflenni drwy’r post
Bydd angen i chi hefyd anfon:
-
ffurflen gais (COP1) - bydd angen i chi anfon y ffurflen wreiddiol ynghyd â chopi
Cyflwyno eich ffurflenni ar-lein
Os gwnaethoch hysbysu’r person am eich cais eich hun ac nad yw’r person wedi dychwelyd y ffurflenni atoch, nid oes angen i chi gyflwyno unrhyw ffurflenni ychwanegol gan y byddwch yn ateb manylion y gwasanaeth ar-lein.
Os hysbysodd asiant neu berson arall y person am eich cais, neu os dychwelodd y person a hysbyswyd y rhain atoch, bydd angen i chi gyflwyno y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep)
Byddwch angen eich Rhif Trosglwyddiad Cyfrif (PBA) GLlTEF i dalu. Gwybodaeth am faint fyddwch angen talu
Os ydych yn cyflwyno ffurflenni drwy’r post
Bydd angen i chi hefyd anfon:
-
ffurflen gais (COP1) - bydd angen i chi anfon y ffurflen wreiddiol ynghyd â chopi
Os ydych yn cyflwyno ffurflenni drwy’r post, anfonwch y ffurflenni i’r Llys Gwarchod a chynnwys siec am y ffi gwneud cais. Gwybodaeth am faint fyddwch angen talu.
Y Llys Gwarchod / Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain / London
WC1A 9JA
Ar ôl i chi wneud cais
Bydd y Llys Gwarchod yn adolygu eich cais ac yn dweud wrthych:
-
os yw eich cais wedi’i gymeradwyo neu ei wrthod
-
os ydych angen sefydlu bond diogelwch cyn y gellir eich penodi - gwybodaeth am faint fyddwch angen talu
-
bod rhaid ichi ddarparu mwy o wybodaeth i gefnogi eich cais, er enghraifft, adroddiad gan y gwasanaethau cymdeithasol
Gan amlaf, ni chynhelir gwrandawiad ar gyfer ceisiadau i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol. Os bydd un, yna bydd rhaid i chi dalu ffi. Gwybodaeth am faint fyddwch angen talu.
Mae’r canllawiau yn egluro beth i’w ddisgwyl mewn gwrandawiad yn Y Llys Gwarchod.
Os bydd angen help neu gymorth arnoch
Gallwch gysylltu â’r Llys Gwarchod.
Y Llys Gwarchod
courtofprotectionenquiries@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 456 4600
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 April 2024 + show all updates
-
Added a Welsh language version of the guidance
-
First published.