Canllawiau

Gwirio a yw unioni’r pensiynau gwasanaeth cyhoeddus yn effeithio arnoch chi 

Os ydych yn aelod, neu’n fuddiolwr o aelod ymadawedig o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, gwiriwch a yw’r unioni’r pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (McCloud) yn effeithio arnoch.

Cyflwynwyd cyfnod pontio pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus i fynd i’r afael â’r gwahaniaethu ar sail oed a ganfuwyd yn y diwygiadau i gynlluniau pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus a roddwyd ar waith o 2014. Ei nod yw sicrhau bod aelodau sy’n cael eu heffeithio, cyn belled ag y bo modd, yn cael eu rhoi yn ôl yn yr un safle pe na bai’r gwahaniaethu wedi digwydd.

Ar bwy mae hyn yn effeithio

Mae’n bosibl y bydd yr unioni’n effeithio arnoch chi os oeddech yn aelod o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus ar neu cyn 31 Mawrth 2012, a rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022.

Cyn i chi ddechrau

I wirio a yw’r unioni’n effeithio arnoch chi, bydd angen i chi wybod y canlynol:

  • p’un a oeddech yn aelod o unrhyw gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022
  • a wnaethoch chi neu’ch cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus dalu tâl treth lwfans blynyddol ar gyfer unrhyw flwyddyn dreth rhwng 6 Ebrill 2014 a 5 Ebrill 2022
  • a ydych chi neu eich cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus wedi talu tâl lwfans oes ar gyfer unrhyw flwyddyn dreth o 6 Ebrill 2015
  • a oes gennych neu a oedd gennych ddiogelwch lwfans oes ar unrhyw adeg

Gwirio a yw’n effeithio arnoch

Gwirio a yw’r unioni’n effeithio arnoch chi a beth sydd angen i chi ei wneud nesaf.

Gwiriwch nawr

Cyhoeddwyd ar 5 October 2023