Datgan nwyddau a thalu treth wrth ddefnyddio safle tollau Porthladd Rhydd y DU
Sut i dalu unrhyw dollau tramor ar nwyddau a ddatganwyd i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd unwaith bod y nwyddau wedi’u tynnu oddi ar y safle tollau hwnnw.
Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.
Cyn i chi ddatgan unrhyw nwyddau
Cyn datgan unrhyw nwyddau i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd, bydd angen i chi fod wedi eich awdurdodi. Mae hwn yn awdurdodiad unigol ynghyd â gofynion datgan haws.
Bydd angen i chi wirio os ydych yn symud nwyddau o dan reolaeth. Mae’r rhain yn unrhyw nwyddau lle bo’r canlynol yn berthnasol:
- maent ar restr o waharddiadau a chyfyngiadau a orfodir gan y tollau ar nwyddau o drydedd wlad yn unig (yn Saesneg)
- maent yn agored i doll ecséis (yn Saesneg) — gweler y tabl ar gyfer nwyddau ecséis
- byddent yn agored i fesur polisi masnachol neu amaethyddol neu doll gwrth-dipio, toll wrthbwyso (yn Saesneg) neu doll diogelu — os cawsant eu datgan ar gyfer cylchrediad rhydd
Gwirio pryd na chewch ddefnyddio gweithdrefnau datganiadau tollau symlach
Mae busnesau sy’n datgan nwyddau (gan gynnwys nwyddau o dan reolaeth) i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer porthladdoedd rhydd yn gallu defnyddio gweithdrefnau datganiad tollau symlach (yn Saesneg) os ydych wedi’ch awdurdodi i wneud hynny. Mae’r eithriadau canlynol yn berthnasol:
- pan fo datganiad blaenorol i weithdrefn arbennig y tollau eisoes wedi’i wneud mewn perthynas â’r nwyddau
- pan fo nwyddau o dan reolaeth ac nad ydynt wedi’u datgan yn flaenorol i weithdrefn arbennig arall y tollau, nid oes modd defnyddio’r cofnod yng nghofnodion y datganydd o weithdrefnau datganiad tollau symlach
Datgan nwyddau sy’n dod i mewn i Brydain Fawr i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer porthladdoedd rhydd
Gallwch ddatgan bod nwyddau’n dod i mewn i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) naill ai cyn iddyn nhw gyrraedd Prydain Fawr, neu ar ôl i’r nwyddau gyrraedd.
Ni fydd eich nwyddau’n gallu gadael rheolaeth y porthladd hyd nes bo CThEF wedi cadarnhau bod modd rhyddhau’r nwyddau i’r safle tollau.
Bydd nwyddau sy’n cael eu rhyddhau o storfa dros dro yn symud yn uniongyrchol i safle tollau Porthladd Rhydd o dan weithdrefn arbennig y Porthladd Rhydd.
Nwyddau nad ydynt o dan reolaeth
I ddatgan y nwyddau, bydd angen i chi lenwi Cais am Glirio’r Tollau — ffurflen C21 (yn Saesneg), gan ddefnyddio codau gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg). Bydd hefyd angen i chi ddefnyddio Tariff Masnach y DU, CDS Cyfrol 3 (yn Saesneg).
Ni fydd yn rhaid i chi gyflwyno datganiad atodol.
Gallwch hefyd gyflwyno datganiad llawn gan ddefnyddio cod gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg).
Gallwch hefyd defnyddio gweithdrefnau datganiad tollau symlach (yn Saesneg) os ydych wedi’ch awdurdodi i wneud hynny.
Nwyddau o dan reolaeth
Mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad safonol ar gyfer nwyddau o dan reolaeth gan ddefnyddio’r gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau tollau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg). Gall Gweithdrefnau Datganiad Tollau Symlach (SCDP) (yn Saesneg) gael eu defnyddio os ydych wedi’ch awdurdodi i ddefnyddio SCDP, a bod yr amgylchiadau’n caniatáu hynny.
Dylech hefyd wirio pryd na chewch ddefnyddio gweithdrefnau datganiadau tollau symlach.
Datgan nwyddau sydd wedi’u symud o storfa dros dro wrth ymyl safle tollau Porthladd Rhydd
Gall nwyddau gael eu symud o gyfleuster storio dros dro porthladd i gyfleuster storio dros dro allanol wrth ymyl safle tollau Porthladd Rhydd. Er mwyn cael eu datgan drwy ymddygiad i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd rhaid iddynt gael eu rhyddhau o storfa dros dro.
Pan fydd nwyddau’n symud o gyfleuster storio dros dro porthladd i gyfleuster storio dros dro allanol wrth ymyl safle tollau Porthladd Rhydd, er mwyn cael eu datgan drwy ymddygiad i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd, mae’n rhaid iddynt gael eu rhyddhau o storfa dros dro.
Nwyddau nad ydynt o dan reolaeth
Os ydych yn mewnforio nwyddau nad ydynt o dan reolaeth, gallwch ddewis rhyddhau’r nwyddau o storfa dros dro gan ddefnyddio Cais am Glirio Tollau (ffurflen C21) (yn Saesneg) gan ddefnyddio codau gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg). Wedyn, rhaid i chi wneud datganiad drwy ymddygiad i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd.
I wneud hyn, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- wedi cael y nwyddau ar safle’ch busnes yn y safle tollau Porthladd Rhydd
- rhoi gwybod i weithredwr eich safle tollau Porthladd Rhydd eich bod wedi cael y nwyddau (mae gweithredwr tollau awdurdodedig yn gyfrifol am safle Porthladd Rhydd)
- gwneud cofnod yn eich cofnodion masnachol
Gall y manylion y bydd angen i chi eu rhoi yn eich cofnodion eich hun gynnwys:
- y cod nwyddau
- y cod gweithdrefnau tollau
- eich cyfeirnod unigryw ar gyfer y llwyth, neu gyfeirnod masnachol priodol
- rhifau anfonebau prynu ac, os ydynt ar gael, rifau anfonebau gwerthu
- y dyddiad a’r amser y rhoesoch gofnod yn eich cofnodion
- unrhyw gyfeirnodau cyfrif ar gyfer safle tollau Porthladd Rhydd, warws neu stoc mewn storfa dros dro
- rhif cymeradwyo’r safle Porthladd Rhydd neu’r warws
- disgrifiad ysgrifenedig o’r nwyddau — fel ei bod hi’n hawdd eu hadnabod
- gwerth tollau
- nifer y nwyddau — er enghraifft, nifer y pecynnau ac eitemau, màs net
- manylion gofynion trwyddedu a rhifau trwyddedau
- manylion unrhyw ddogfennau ategol, gan gynnwys y rhifau cyfresol, lle bo’n briodol, sydd eu hangen cyn y gellir rhyddhau’r nwyddau
- manylion y person rydych yn ei gynrychioli os ydych yn gwneud datganiad ar ran rhywun arall
Ni fydd yn rhaid i chi gyflwyno datganiad atodol.
Gallwch wneud cais am gymeradwyaeth i storio dros dro (yn Saesneg) er mwyn i chi gael clirio’r nwyddau eich hun i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd.
Gallwch hefyd ddefnyddio cyfleuster storio dros dro rhywun arall ar y safle tollau Porthladd Rhydd. Bydd angen i chi wirio:
- bod gan yr unigolyn arall gymeradwyaeth i storio dros dro yn barod (neu ei fod yn bwriadu gwneud cais am gymeradwyaeth o’r fath)
- bod gennych gytundeb gyda gweithredwr y cyfleuster storio dros dro i’w ddefnyddio
Mae yna ffyrdd eraill o ddatgan nwyddau nad ydynt o dan reolaeth a’u rhyddhau o Storfa Dros Dro. Gallwch gyflwyno datganiad llawn gan ddefnyddio cod gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg). Gallwch hefyd defnyddio gweithdrefnau datganiad tollau symlach (yn Saesneg) os ydych wedi’ch awdurdodi i wneud hynny. Mae yna rai amgylchiadau lle na chaniateir hyn — dylech wirio pryd na chaniateir i chi ddefnyddio gweithdrefnau datganiadau tollau symlach.
Nwyddau o dan reolaeth
Os ydych yn mewnforio nwyddau o dan reolaeth, gallwch gyflwyno datganiad llawn gan ddefnyddio cod gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg). Pan fydd CThEF yn derbyn y datganiad, bydd y nwyddau’n cael eu rhyddhau. Fel arall, gallwch ddefnyddio gweithdrefnau datganiad tollau symlach (yn Saesneg) os ydych wedi’ch awdurdodi i wneud hynny. Mae yna rai amgylchiadau lle na chaniateir hyn — dylech wirio pryd na chaniateir i chi ddefnyddio gweithdrefnau datganiadau tollau symlach.
Datgan nwyddau a gaiff eu symud o dan drefniadau cludo
Gallwch ddefnyddio trefniadau cludo i ddod â nwyddau i safle tollau Porthladd Rhydd, os yw awdurdodiad y derbynnydd awdurdodedig yn cynnwys y safle fel lleoliad cymeradwy.
Bydd angen tystiolaeth o’r symudiad cludo, megis y Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo, ar weithredwr eich safle tollau Porthladd Rhydd.
Pan fydd y nwyddau’n cyrraedd, bydd y derbynnydd awdurdodedig yn gofyn am ganiatâd i ddod â’r symudiad cludo i ben a dadlwytho’r nwyddau.
Nwyddau nad ydynt o dan reolaeth
I symud nwyddau nad ydynt o dan reolaeth i’r safle tollau Porthladd Rhydd a defnyddio gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd, bydd angen i chi wneud datganiad drwy ymddygiad. I wneud hyn, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- wedi cael y nwyddau ar safle’ch busnes yn y safle tollau Porthladd Rhydd
- rhoi gwybod i weithredwr y safle tollau Porthladd Rhydd eich bod wedi cael y nwyddau
- gwneud cofnod yn eich cofnodion masnachol
Gall y manylion y bydd angen i chi eu rhoi yn eich cofnodion eich hun gynnwys:
- y cod nwyddau
- y cod gweithdrefnau tollau
- eich cyfeirnod unigryw ar gyfer y llwyth, neu gyfeirnod masnachol priodol
- rhifau anfonebau prynu ac, os ydynt ar gael, rifau anfonebau gwerthu
- y dyddiad a’r amser y rhoesoch gofnod yn eich cofnodion
- unrhyw gyfeirnodau cyfrif ar gyfer safle tollau Porthladd Rhydd, warws neu stoc mewn storfa dros dro
- rhif cymeradwyo’r safle Porthladd Rhydd neu’r warws
- disgrifiad ysgrifenedig o’r nwyddau — fel ei bod hi’n hawdd eu hadnabod
- gwerth tollau
- nifer y nwyddau — er enghraifft, nifer y pecynnau ac eitemau, màs net
- manylion gofynion trwyddedu a rhifau trwyddedau
- manylion unrhyw ddogfennau ategol, gan gynnwys y rhifau cyfresol, lle bo’n briodol, sydd eu hangen cyn y gellir rhyddhau’r nwyddau
- manylion y person rydych yn ei gynrychioli os ydych yn gwneud datganiad ar ran rhywun arall
Ni fydd yn rhaid i chi gyflwyno datganiad atodol.
Nwyddau o dan reolaeth
I symud nwyddau o dan reolaeth i’r safle tollau, bydd angen i chi gyflwyno datganiad llawn gan ddefnyddio cod gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg). Gallwch hefyd defnyddio gweithdrefnau datganiad tollau symlach (yn Saesneg) os ydych wedi’ch awdurdodi i wneud hynny. Mae yna rai amgylchiadau lle na chaniateir hyn — dylech wirio pryd na chaniateir i chi ddefnyddio gweithdrefnau datganiadau tollau symlach.
Rhyddhau eich nwyddau o weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd
Nwyddau a gaiff eu hallforio
Fel arfer, bydd angen i chi gyflwyno datganiad cryno wrth ymadael gan ddefnyddio cod gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiad ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg) pan fydd nwyddau’n cael eu hallforio o’r DU. Pan nad oes angen datganiad cryno wrth ymadael, bydd angen i chi roi hysbysiad allforio ymlaen i CThEF.
Bydd angen tystiolaeth ar weithredwr eich safle tollau Porthladd Rhydd fod y nwyddau’n cael eu symud i rywle lle y byddant yn cael eu hallforio.
Nwyddau a gaiff eu symud i gylchrediad rhydd
Gallwch wneud datganiad llawn gan ddefnyddio cod gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg) neu ddefnyddio cofnod yng nghofnodion y datganydd (pan ddelir yr awdurdodiadau presennol ar gyfer y weithdrefn datganiad symlach).
Talu toll pan fyddwch yn rhyddhau nwyddau i fod mewn cylchrediad rhydd
Cyn y byddwch yn rhyddhau eich nwyddau i fod mewn cylchrediad rhydd, bydd angen i chi roi cyfrif am dollau mewnforio.
Bydd angen i chi roi gwybod i ni os ydych am gyfrifo’ch toll ar sail y naill neu’r llall o’r canlynol:
- bod y nwyddau fel yr oeddent adeg y datganiad i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd
- ar adeg y datganiad i gylchrediad rhydd o weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd
Gallwch newid y dull hwn drwy gysylltu â’ch swyddfa oruchwylio ac egluro’r rhesymau. Byddant naill ai’n caniatáu neu’n gwrthod eich cais ac yn rhoi gwybod i chi a yw hyn yn effeithio ar eich awdurdodiad.
Symud nwyddau ecséis o weithdrefn y Porthladd Rhydd i warws ecséis
Gallwch ddewis gwneud datganiad llawn gan ddefnyddio cod gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg) neu ddefnyddio cofnod yng nghofnodion y datganydd os awdurdodir i ddefnyddio gweithdrefnau datganiad tollau symlach
Ni fydd eich nwyddau’n cael gadael y safle tollau hyd nes bo CThEF wedi cadarnhau bod modd eu rhyddhau lle mae datganiad llawn wedi’i gyflwyno. Bydd angen i weithredwr eich safle tollau gael tystiolaeth o naill ai glirio’r datganiad llawn, neu eich cofnod mewn cofnodion.
Pan fydd gofynion y datganiad wedi cael eu bodloni, gallwch symud eich nwyddau ecséis i’r lleoliad lle mae’r doll ecséis wedi’i gohirio (er enghraifft, warws ecséis). Bydd angen i’r anfonwr cofrestredig olrhain y symudiad drwy’r System Symudiadau a Rheolaeth Ecséis.
Manwerthu nwyddau sy’n cael eu storio o dan weithdrefn arbennig Porthladd Rhydd
Dim ond i’r canlynol y gallwch fanwerthu nwyddau sydd wedi’u storio o dan y gweithdrefnau arbennig:
- unigolion sy’n teithio y tu allan i’r DU
- aelodau o sefydliadau rhyngwladol
- aelodau o luoedd NATO
- unigolion y mae trefniadau diplomyddol a chonsylaidd yn berthnasol iddynt
- cwsmeriaid o bell ac ar-lein, lle mae nwyddau’n cael eu dewis a’u hanfon yn unol â’r archeb
Nwyddau gweithdrefnau arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a gaiff eu symud i weithdrefnau arbennig tollau arall
Bydd angen i chi gadw manylion y nwyddau sydd wedi’u symud ymaith yn eich cofnodion.
Datgan nwyddau a gaiff eu symud rhwng gwahanol safleoedd tollau Porthladdoedd Rhydd
Os ydych yn anfon nwyddau i safle tollau Porthladd Rhydd busnes awdurdodedig gwahanol
Bydd yn rhaid:
- cadw manylion y nwyddau sydd wedi’u symud ymaith yn eich cofnodion
- darparu gwybodaeth am y symudiad i weithredwr y safle tollau Porthladd Rhydd
Os ydych yn symud nwyddau sydd wedi’u hawdurdodi mewn lleoliad Porthladd Rhydd arall
Bydd yn rhaid:
- cadw manylion y nwyddau sydd wedi’u symud ymaith yn eich cofnodion
- darparu gwybodaeth am y symudiad i weithredwyr y ddau safle tollau Porthladd Rhydd
Os ydych yn cael nwyddau gan fusnes awdurdodedig arall mewn safle tollau Porthladd Rhydd gwahanol
Ar gyfer nwyddau o dan reolaeth, bydd angen i chi gyflwyno datganiad llawn gan ddefnyddio cod gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg).
Ar gyfer nwyddau nad ydynt o dan reolaeth, bydd angen i chi wneud datganiad drwy ymddygiad. I wneud hyn, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- wedi cael y nwyddau ar safle’ch busnes yn y safle tollau Porthladd Rhydd
- rhoi gwybod i weithredwr y safle tollau Porthladd Rhydd eich bod wedi cael y nwyddau
- gwneud cofnod yn eich cofnodion masnachol
Gall y manylion y bydd angen i chi eu rhoi yn eich cofnodion eich hun gynnwys:
- y cod nwyddau
- y cod gweithdrefnau tollau
- eich cyfeirnod unigryw ar gyfer y llwyth, neu gyfeirnod masnachol priodol
- rhifau anfonebau prynu ac, os ydynt ar gael, rifau anfonebau gwerthu
- y dyddiad a’r amser y rhoesoch gofnod yn eich cofnodion
- unrhyw gyfeirnodau cyfrif ar gyfer safle tollau Porthladd Rhydd, warws neu stoc mewn storfa dros dro
- rhif cymeradwyo’r safle Porthladd Rhydd neu’r warws
- disgrifiad ysgrifenedig o’r nwyddau — fel ei bod hi’n hawdd eu hadnabod
- gwerth tollau
- nifer y nwyddau — er enghraifft, nifer y pecynnau ac eitemau, màs net
- manylion gofynion trwyddedu a rhifau trwyddedau
- manylion unrhyw ddogfennau ategol, gan gynnwys y rhifau cyfresol, lle bo’n briodol, sydd eu hangen cyn y gellir rhyddhau’r nwyddau
- manylion y person rydych yn ei gynrychioli os ydych yn gwneud datganiad ar ran rhywun arall
Datgan nwyddau a gaiff eu symud o fewn yr un safle tollau Porthladd Rhydd
Os ydych yn cael nwyddau gan fusnes awdurdodedig arall yn yr un safle tollau Porthladd Rhydd
Ar gyfer nwyddau o dan reolaeth, bydd angen i chi gyflwyno datganiad llawn gan ddefnyddio cod gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg).
Ar gyfer nwyddau nad ydynt o dan reolaeth, bydd angen i chi wneud datganiad drwy ymddygiad. I wneud hyn, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- wedi cael y nwyddau ar safle’ch busnes yn y safle tollau Porthladd Rhydd
- rhoi gwybod i weithredwr y safle tollau Porthladd Rhydd eich bod wedi cael y nwyddau
- gwneud cofnod yn eich cofnodion masnachol
Gall y manylion y bydd angen i chi eu rhoi yn eich cofnodion eich hun gynnwys:
- y cod nwyddau
- y cod gweithdrefnau tollau
- eich cyfeirnod unigryw ar gyfer y llwyth, neu gyfeirnod masnachol priodol
- rhifau anfonebau prynu ac, os ydynt ar gael, rifau anfonebau gwerthu
- y dyddiad a’r amser y rhoesoch gofnod yn eich cofnodion
- unrhyw gyfeirnodau cyfrif ar gyfer safle tollau Porthladd Rhydd, warws neu stoc mewn storfa dros dro
- rhif cymeradwyo’r safle Porthladd Rhydd neu’r warws
- disgrifiad ysgrifenedig o’r nwyddau — fel ei bod hi’n hawdd eu hadnabod
- gwerth tollau
- nifer y nwyddau — er enghraifft, nifer y pecynnau ac eitemau, màs net
- manylion gofynion trwyddedu a rhifau trwyddedau
- manylion unrhyw ddogfennau ategol, gan gynnwys y rhifau cyfresol, lle bo’n briodol, sydd eu hangen cyn y gellir rhyddhau’r nwyddau
- manylion y person rydych yn ei gynrychioli os ydych yn gwneud datganiad ar ran rhywun arall
Ni fydd yn rhaid i chi gyflwyno datganiad atodol.
Cael nwyddau o weithdrefn arbennig arall y tollau
Ar gyfer nwyddau o dan reolaeth, bydd angen i chi gyflwyno datganiad llawn gan ddefnyddio cod gweithdrefn y Porthladd Rhydd yn y gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ar gyfer Prydain Fawr (yn Saesneg).
Ar gyfer nwyddau nad ydynt o dan reolaeth, gallwch ddewis gwneud datganiad drwy ymddygiad. I wneud hyn, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- wedi cael y nwyddau ar safle’ch busnes yn y safle tollau Porthladd Rhydd
- rhoi gwybod i weithredwr y safle tollau Porthladd Rhydd eich bod wedi cael y nwyddau
- gwneud cofnod yn eich cofnodion masnachol
Gall y manylion y bydd angen i chi eu rhoi yn eich cofnodion eich hun gynnwys:
- y cod nwyddau
- y cod gweithdrefnau tollau
- eich cyfeirnod unigryw ar gyfer y llwyth, neu gyfeirnod masnachol priodol
- rhifau anfonebau prynu ac, os ydynt ar gael, rifau anfonebau gwerthu
- y dyddiad a’r amser y rhoesoch gofnod yn eich cofnodion
- unrhyw gyfeirnodau cyfrif ar gyfer safle tollau Porthladd Rhydd, warws neu stoc mewn storfa dros dro
- rhif cymeradwyo’r safle Porthladd Rhydd neu’r warws
- disgrifiad ysgrifenedig o’r nwyddau — fel ei bod hi’n hawdd eu hadnabod
- gwerth tollau
- nifer y nwyddau — er enghraifft, nifer y pecynnau ac eitemau, màs net
- manylion gofynion trwyddedu a rhifau trwyddedau
- manylion unrhyw ddogfennau ategol, gan gynnwys y rhifau cyfresol, lle bo’n briodol, sydd eu hangen cyn y gellir rhyddhau’r nwyddau
- manylion y person rydych yn ei gynrychioli os ydych yn gwneud datganiad ar ran rhywun arall
Ffordd arall y gallwch ddatgan nwyddau nad ydynt o dan reolaeth yw drwy gyflwyno datganiad llawn.
Symud nwyddau ymaith o safle tollau Porthladd Rhydd dros dro
Gallwch symud nwyddau ymaith dros dro o’r safle tollau Porthladd Rhydd o dan weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd. Mae hyn yn cynnwys symud eitemau unigol am gyfnod i ddarpar brynwyr eu gweld neu eu profi. Os byddwch yn gwneud hyn:
- rhaid iddynt gael eu gweld neu eu profi yng nghyffiniau’r safle tollau Porthladd Rhydd
- rhaid i’r darpar brynwyr fod yng nghwmni cyflogeion y Porthladd Rhydd drwy’r amser
- rhaid i chi gadw cofnodion a chael caniatâd CThEF cyn i chi symud y nwyddau ymaith
Bydd y nwyddau’n aros o dan drefniadau gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd pan na fyddant yn eich man storio.
Hefyd, bydd angen i weithredwr eich safle tollau Porthladd Rhydd gael hysbysiad a thystiolaeth o’r caniatâd i symud y nwyddau ymaith dros dro.
Gwaredu nwyddau rydych wedi’u storio, eu prosesu neu eu hatgyweirio
Pan fyddwch wedi gorffen storio neu brosesu’r nwyddau, rhaid i chi gael gwared arnyn nhw naill ai drwy’r canlynol:
- eu hail-allforio y tu allan i’r DU
- eu datgan i weithdrefn arall y tollau(gan gynnwys cylchrediad rhydd)
- eu trosglwyddo i ddeiliad awdurdodiad busnes Porthladd Rhydd arall
- eu dinistrio — dim ond dan oruchwyliaeth swyddogion tollau mae hyn yn bosibl fel arfer
- defnyddio dulliau gwaredu syml eraill
Ceir achosion arbennig hefyd ar gyfer rhai nwyddau sy’n cael eu hystyried yn rhai sy’n cael eu hail-allforio. Bydd eich llythyr awdurdodiad yn rhoi gwybod i chi:
- faint o amser sydd gennych i ryddhau eich nwyddau — bydd hyn yn seiliedig ar y cyfnod a amcangyfrifwyd gennych ar eich ffurflen gais
- manylion eich swyddfa oruchwylio os bydd angen i chi ymestyn y cyfnod
Gwybodaeth angenrheidiol os byddwch yn gwaredu eich nwyddau
Os ydych wedi cael gwared ar eich nwyddau, bydd angen y canlynol arnoch:
- cyfeirnod y gwaredu
- dyddiad gwaredu
- rhif datgan cylchrediad rhydd
- dull prisio
- dull gwaredu
- cod nwyddau
- disgrifiad
- nifer
- cyfradd yr elw
- swm ffioedd tollau rydych yn hawlio rhyddhad yn eu cylch
TAW ar gyflenwadau yn y safle tollau Porthladd Rhydd
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gosod cyfradd TAW o sero ar gyflenwadau o fewn safle tollau Porthladd Rhydd ar gyfer naill ai:
- nwyddau a gaiff eu datgan i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd
- gwasanaethau a gaiff eu cynnal ar nwyddau a ddatgenir i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd
Pan fyddwch yn cyflwyno anfoneb TAW ar gyfer nwyddau neu wasanaethau cyfradd sero, mae’n rhaid iddi gynnwys y cyfeirnod ‘parth rhydd’ / ‘free zone’.
Does dim modd i chi roi cyfradd sero ar nwyddau neu wasanaethau rydych yn eu gwerthu i fusnes y tu allan i safle tollau Porthladd Rhydd.
Os ydych yn defnyddio gweithdrefn arbennig tollau sy’n bodoli’n barod, bydd y rheolau TAW arferol ar gyfer y weithdrefn honno’n berthnasol.
Pryd y gallwch roi cyfradd sero ar gyflenwadau o nwyddau
Gallwch roi cyfradd sero ar gyflenwadau o nwyddau os yw’r canlynol yn wir:
- maent wedi’u datgan i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd
- maent yn cael eu gwerthu o un busnes Porthladd Rhydd awdurdodedig i un arall yn y safle tollau Porthladd Rhydd
- mae’r ddau fusnes Porthladd Rhydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW gyda CThEF (oni bai eu bod wedi’u heithrio rhag cofrestru ar gyfer TAW a bod CThEF wedi cymeradwyo’r eithriad hwn)
Mae hyn yn cynnwys nwyddau sydd wedi cael eu datgan i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd ac sydd wedi cael eu cyfuno â nwyddau a brynwyd yn y DU fel rhan o weithgarwch awdurdodedig yn y safle tollau.
Pryd y gallwch roi cyfradd sero ar gyflenwadau o wasanaethau
Gallwch roi cyfradd sero ar gyflenwadau o wasanaethau os yw’r canlynol yn wir am y gwasanaeth:
- mae’n cael ei gynnal ar nwyddau sydd wedi’u datgan i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd, neu mae’n gysylltiedig â’r nwyddau hynny
- byddai’n drethadwy, ar wahân i ddarpariaethau o dan y parth rhydd
- mae wedi’i gyflawni gan berson awdurdodedig
Rhaid i’r sawl sy’n derbyn y gwasanaeth roi gwybod i’r cyflenwr yn ysgrifenedig (er enghraifft, mewn e-bost neu lythyr) fod yr amodau ar gyfer y gyfradd sero wedi’u bodloni a bod cyfradd sero yn berthnasol.
Pryd y bydd yn rhaid i’r sawl sy’n derbyn y nwyddau roi cyfrif am dreth allbwn
Efallai y bydd angen i’r sawl sy’n derbyn y nwyddau neu’r gwasanaethau sydd ar gyfradd sero roi cyfrif am dreth allbwn os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- nid ydych yn cyflenwi’r nwyddau hynny ymlaen o fewn 3 mis i’w datgan i gylchrediad rhydd
- rydych yn torri rheolau gweithdrefn arbennig y tollau ar gyfer porthladdoedd rhydd
Bydd angen i’r derbyniwr ddefnyddio gwerth y nwyddau neu’r gwasanaeth i gyfrifo faint o dreth allbwn sy’n ddyledus. Efallai y bydd hefyd yn gallu hawlio unrhyw dreth fewnbwn yn ôl, yn unol â’r rheolau TAW arferol.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 October 2022 + show all updates
-
Information about Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) has been removed. You can no longer use CHIEF for import declarations unless you have permission from HMRC.
-
Added translation
-
We have updated the page to confirm the circumstances where you are not permitted to use simplified customs declarations procedures.
-
Guidance has been updated to include what you must do to import controlled goods into a Freeport customs site.
-
Guidance has been updated about declaring goods entering Great Britain to the Freeport customs special procedure, to explain which Freeport procedure codes you'll need to complete a Customs Clearance Request (form C21).
-
Welsh translation has been added.
-
Added information about paying duty when you release goods to free circulation and removing goods from the Freeport site temporarily.
-
What you'll need to do to dispose of goods you’ve processed or repaired has been added.
-
First published.