Canllawiau

Treth cerbyd ar gyfer cerbydau trydan ac allyriadau isel

Sut bydd y newidiadau treth cerbyd (VED) o 1 Ebrill 2025 yn effeithio ar eich cerbyd.

O 1 Ebrill 2025, bydd angen i yrwyr ceir, faniau a beiciau modur trydan ac allyriadau isel dalu treth cerbyd yn yr un ffordd ag y mae gyrwyr cerbydau peiriant tanio mewnol (ICE) yn ei wneud. Bydd y newid hwn yn berthnasol i gerbydau newydd a’r rhai sydd eisoes yn bodoli a bydd yn sicrhau bod pob gyrrwr yn dechrau talu cyfraniad treth tecach.

Mae’r mesur newydd hwn i bob pwrpas yn dileu band A o dan y system VED graddedig sydd ar hyn o bryd yn £0. Bydd yn ofynnol i gerbydau yn y band hwn symud i’r band cyntaf lle mae cyfradd yn daladwy.

Sut bydd y newidiadau yn effeithio ar eich cerbyd

Ceir trydan ac allyriadau isel a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025

Bydd angen ichi dalu’r gyfradd blwyddyn gyntaf isaf o dreth cerbyd (sy’n berthnasol i gerbydau sydd ag allyriadau CO2 o 1 i 50g/km). O’r ail daliad treth ymlaen, bydd y cerbydau hyn yn talu’r gyfradd safonol. Mae hon yn £190 ar gyfer 2024 ond gall newid ar gyfer 2025.

Ceir trydan ac allyriadau isel a gofrestrwyd rhwng 1 Ebrill 2017 ac 31 Mawrth 2025

Byddwch yn talu’r gyfradd safonol. Mae hon yn £190 ar gyfer 2024 ond gall newid ar gyfer 2025.

Ceir trydan ac allyriadau isel a gofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2001 ac 31 Mawrth 2017

Bydd y cerbydau hyn yn symud i’r band cyntaf sydd â gwerth VED. Mae hon yn £20 ar gyfer 2024 ond gall newid ar gyfer 2025.

Cerbydau a daniwyd mewn ffordd amgen (AFVs)

Bydd y gostyngiad blynyddol o £10 ar gyfer AFVs a cherbydau hybrid yn cael ei ddileu, a bydd y gyfradd y byddwch yn ei thalu yn dibynnu ar bryd y cofrestrwyd y cerbyd am y tro cyntaf. Os cofrestrwyd y cerbyd:

Faniau trydan

Bydd y rhan fwyaf o faniau trydan yn symud i’r gyfradd flynyddol safonol ar gyfer cerbydau nwyddau ysgafn.

Beiciau modur trydan

Bydd beiciau modur trydan a beiciau tair olwyn trydan yn symud i’r gyfradd flynyddol ar gyfer maint lleiaf yr injan.

Gweler y dudalen cyfraddau treth cerbyd i gael manylion am y cyfraddau treth presennol ar gyfer pob cerbyd.

Cyfradd ychwanegol (atodiad ceir drud)

Ar gyfer cerbydau trydan newydd sydd â phris catalog sy’n fwy na £40,000, bydd angen ichi dalu’r atodiad ceir drud o’r ail daliad treth ymlaen. Mae hyn yn berthnasol i gerbydau a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025.

Cyhoeddwyd ar 9 April 2024