Gwirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gael gwybod:
-
faint o bensiwn y wladwriaeth y gallech ei gael
-
pryd y gallech ei gael
-
sut i’w gynnydd (os oes modd i chi wneud hynny)
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei adolygu o bryd i’w gilydd, felly y mae’n bosibl y bydd canlyniadau’r offeryn hwn yn newid yn y dyfodol. Gallwch ddarllen am ganlyniadau yr adolygiad diweddaraf (yn agor tudalen Saesneg).
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych eisoes yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth, neu os ydych wedi dewis i ohirio eich hawliad.
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Cewch wybod pan rydych yn mewngofnodi a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Gallwch hefyd wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth drwy ap CThEF.
Y ffordd gyflymaf o gael rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth yw drwy wneud cais ar-lein. Os ni fyddwch yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) cyn pen y 30 diwrnod nesaf, gallwch hefyd wneud y canlynol:
-
llenwi ffurflen gais BR19 a’i hanfon drwy’r post
-
ffonio Canolfan Pensiwn y Dyfodol a gofyn iddyn nhw anfon eich rhagolwg atoch drwy’r post
Os ydych eisoes yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth, neu os ydych wedi dewis i ohirio eich hawliad
I gael gwybodaeth am eich Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn os ydych yn y DU, neu cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn byw dramor.