Budd-daliadau ar gyfer gofalwyr a phobl ag anabledd

Mae’r hyn y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar:

  • pa fudd-dal rydych yn ei hawlio
  • ble rydych yn mynd ac am faint o amser

Mynd dramor dros-dro

Gallwch hawlio’r budd-daliadau canlynol os ydych yn mynd dramor am hyd at 13 wythnos (neu 26 wythnos os ydych yn mynd am driniaeth feddygol):

Gallwch barhau i hawlio Lwfans Gofalwr os ydych yn cymryd hyd at 4 wythnos o wyliau allan mewn cyfnod o 26-wythnos.

Rhowch wybod i’r swyddfa sy’n delio gyda’ch budd-dal eich bod yn mynd i ffwrdd.

Mynd dramor i wlad AEE neu’r Swistir yn barhaol

Efallai gallwch chi neu aelod o’ch teulu hawlio budd-daliadau os ydych:

  • yn gweithio yn y DU neu’n talu Yswiriant Gwladol yn y DU oherwydd gwaith
  • wedi talu digon o Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys am fudd-daliadau sy’n seiliedig ar gyfraniadau
  • yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, Budd-dal Anafiadau Diwydiannol, ESA yn Seiliedig ar Gyfraniad neu fudd-daliadau Profedigaeth
  • wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael

Os ydych yn gymwys efallai y gallwch hefyd hawlio:

  • Elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion
  • Elfen byw bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Gweini neu Lwfans Gofalwr

Nid oes modd i chi hawlio elfen symudedd DLA ac elfen symudedd PIP dramor

Darganfyddwch a allwch hawlio budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir.

Os ydych yn barod yn byw mewn gwlad AEE neu’r Swistir

Nid oes angen eich bod wedi hawlio yn y DU cyn i chi symud. Ond mae’n rhaid:

  • eich bod yn preswylio fel arfer mewn gwlad yr AEE neu’r Swistir
  • bod gennych gysylltiad gwirioneddol gyda system nawdd cymdeithasol y DU, er enghraifft rydych wedi byw neu weithio yn y DU
  • eich bod wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael

Darganfyddwch a allwch hawlio budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir.

Os oes gennych anabledd

Os ydych yn gymwys, gallwch hawlio’r elfen fyw ddyddiol o’r naill neu’r llall:

Cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd os ydych ar hyn o bryd yn hawlio PIP neu Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion ac eisiau gwneud cais am Daliad Anabledd Oedolion yn lle.

Cysylltwch â Nawdd Cymdeithasol Yr Alban os ydych ar hyn o bryd yn hawlio Taliad Anabledd Oedolion ac eisiau gwneud cais am PIP.

Gallech hefyd gysylltu â Nawdd Cymdeithasol Yr Alban os nad ydych yn siŵr a oes gennych ‘gyswllt dilys a digonol’ â’r Alban.

Os oes gennych blentyn anabl o dan 16 oed

Os yw eich plentyn yn gymwys, gallwch hawlio’r rhan elfen gofal o’r naill neu’r llall:

Os ydych yn hawlio DLA i blant ar hyn o bryd ac eisiau hawlio Taliad Anabledd Plant yn lle hynny, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd.

Os ydych yn hawlio Taliad Anabledd Plant ar hyn o bryd ac eisiau hawlio DLA i blant, cysylltwch â Social Security Scotland.

Gallwch hefyd gysylltu â Social Security Scotland os nad ydych yn siŵr a oes gennych ‘gyswllt dilys a digonol’ â’r Alban

Gwneud cais neu newid eich manylion

I wneud cais neu newid unrhyw fanylion personol, fel eich cyfeiriad neu’ch cyfrif banc, ysgrifennwch at y Tîm Allforiadwyedd sy’n delio gyda’r budd-dal rydych yn ei hawlio.

Os ydych yn gwneud cais, dylai eich llythyr ddweud:

  • pa fudd-daliadau rydych am eu hawlio
  • ble rydych chi’n byw

Tîm Allforiadwyedd Lwfans Gweini

Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2AD
United Kingdom

Tîm Allforiadwyedd Lwfans Byw i’r Anabl

Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2AD
United Kingdom

Tîm Allforiadwyedd Taliad Annibyniaeth Personol

Mail Handling Site B
Wolverhampton
WV99 1AE
United Kingdom

Lwfans Gofalwr

Gallwch hawlio Lwfans Gofalwr neu rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar-lein.

Gallwch hefyd ysgrifennu at Dîm Allforiadwyedd Lwfans Gofalwr.

Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2AE
United Kingdom

Help a chyngor

Cysylltwch â Thîm Allforiadwyedd Budd-daliadau Anabledd am Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), Lwfans Gweini a Thaliad Annibyniaeth Personol (PIP).

team.exportability@dwp.gov.uk

Os oes gennych ymholiad cyffredinol am Lwfans Gofalwr, cysylltwch ag Uned Lwfans Gofalwr.

Os ydych yn defnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gallwch ddefnyddio gwasanaeth fideo relay. Mae ar gael Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm – Gwiriwch gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth.