Pensiwn Newydd y Wladwriaeth
Pryd fyddwch yn cael eich talu
Ar ôl i chi wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth byddwch yn cael llythyr am eich taliadau.
Fel arfer, mae’r Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn cael ei dalu i’ch cyfrif bob 4 wythnos. Os ydych eisiau newid y cyfrif, rhowch wybod i’r Gwasanaeth Pensiwn.
Mae rheolau gwahanol os ydych yn byw dramor.
Eich taliad cyntaf
Gofynnir i chi pryd rydych am ddechrau cael eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn gwneud cais. Ni fydd eich taliad cyntaf yn hwyrach na 5 wythnos ar ôl y dyddiad y byddwch yn dewis.
Byddwch yn cael taliad llawn bob 4 wythnos ar ôl hynny.
Efallai y byddwch yn cael rhan o daliad cyn eich taliad llawn cyntaf. Bydd y llythyr sy’n cadarnhau eich taliad Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl.
Eich diwrnod talu
Mae’r diwrnod y caiff eich pensiwn ei dalu yn dibynnu ar eich rhif Yswiriant Gwladol.
Efallai y byddwch yn cael eich talu’n gynharach os bydd eich diwrnod talu arferol ar ŵyl y banc.
Y 2 ddigid olaf o’ch rhif Yswiriant Gwladol | Diwrnod talu o’r wythnos |
---|---|
00 i 19 | Dydd Llun |
20 i 39 | Dydd Mawrth |
40 i 59 | Dydd Mercher |
60 i 79 | Dydd Iau |
80 i 99 | Dydd Gwener |