Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs i gyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Cod didoli Rhif y cyfrif Enw’r cyfrif
08 32 10 12001039 HMRC Cumbernauld

Cyfeirnod

Bydd angen i chi roi cyfeirnod, sy’n 17 o gymeriadau, fel y cyfeirnod talu. Mae hwn yn dechrau gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau. Yna, ychwanegwch y flwyddyn dreth rydych am dalu ar ei chyfer a’r digidau ‘13’ er mwyn gwneud yn siŵr bod eich taliad yn cael ei neilltuo’n gywir.

Blwyddyn dreth Ychwanegwch y digidau hyn at eich cyfeirnod
2022 i 2023 2313
2023 i 2024 2413
2024 i 2025 2513

Enghraifft

Eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon yw 123PA00012345.

I wneud taliad ym mis Gorffennaf 2024 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, 2023 i 2024, ychwanegwch y digidau ‘2413’ at eich cyfeirnod fel bod eich cyfeirnod nawr yn 123PA000123452413.

Mae’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon ar y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf.

Mae’n rhaid i chi wneud taliad ar wahân ar gyfer taliadau Dosbarth 1A. Ni allwch eu hychwanegu at daliad TWE safonol.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau drwy Daliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, mae taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amseroedd prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Taliadau tramor

Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor:

Rhif y cyfrif (IBAN) Cod Adnabod y Banc (BIC) Enw’r cyfrif
GB62BARC20114770297690 BARCGB22 HMRC Cumbernauld

Bydd rhai banciau yn codi tâl arnoch os nad ydych yn talu mewn punnoedd sterling.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP