Gwneud cais ar-lein am basbort y DU

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am, adnewyddu, amnewid neu ddiweddaru’ch pasbort a thalu amdano ar-lein.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os yw eich pasbort yn fwrgwyn neu os oes ganddo ‘Undeb Ewropeaidd’ ar y clawr, gallwch barhau i’w ddefnyddio nes iddo ddod i ben.

Faint o amser mae’n ei gymryd

Gwiriwch faint o amser y bydd yn ei gymryd i gael pasbort cyn i chi wneud cais. Mae’n cymryd mwy o amser i wneud cais trwy’r post nag ar-lein.

Os oes angen pasbort arnoch ar frys, gallwch ddysgu rhagor am y Premiwm Ar-lein neu wasanaethau Llwybr Carlam 1 wythnos.

Peidiwch ag archebu teithio nes bod gennych basbort dilys - ni fydd gan eich pasbort newydd yr un rhif â’ch hen un.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Mae’n £11.50 yn rhatach gwneud cais am basbort ar-lein na thrwy’r post.

Dechrau nawr

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch godi ffurflenni cais pasbort o’ch Swyddfa Bost leol a gwneud cais trwy’r post, neu ddefnyddio gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa’r Post.

Mae’n cymryd mwy o amser i wneud cais trwy’r post nag ar-lein.