Eich rhif Yswiriant Gwladol

Mae gennych rif Yswiriant Gwladol er mwyn sicrhau bod eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’ch treth yn cael eu cofnodi yn erbyn eich enw chi’n unig.

Ni fydd eich rhif Yswiriant Gwladol yn newid ar unrhyw adeg. Mae’n cynnwys 2 lythyren, 6 rhif a llythyren i orffen.

Er enghraifft, QQ123456B

Fel arfer, byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau eich rhif Yswiriant Gwladol yn fuan cyn eich pen-blwydd yn 16 mlwydd oed. Caiff hwn ei anfon i’r cyfeiriad sydd gan CThEF ar eich cyfer.

Os oes angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch

Bydd eich rhif Yswiriant Gwladol ar ddogfennau sy’n ymwneud â threth, megis eich clip cyflog neu’ch P60. Gallwch hefyd ei gael ar ffurf llythyr a dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar-lein.

Os nad ydych erioed wedi cael rhif Yswiriant Gwladol

Gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol os nad ydych wedi cael un o’r blaen.

Cadw eich rhif Yswiriant Gwladol yn ddiogel

Er mwyn atal twyll hunaniaeth, peidiwch â rhannu eich rhif Yswiriant Gwladol gydag unrhyw un nad oes ei angen arno.

Mae’n bosibl y bydd angen i’r sefydliadau hyn wybod beth yw’ch rhif:

  • Cyllid a Thollau EF (CThEF)
  • eich cyflogwr
  • yr Adran Gwaith a Phensiynau (sy’n cynnwys y Ganolfan Byd Gwaith a’r Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr), os ydych yn hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth, neu’r Adran Datblygu Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon
  • eich cyngor lleol, os ydych yn hawlio Budd-dal Tai, neu Weithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon
  • Swyddogion Cofrestru Etholiadol (er mwyn gwirio pwy ydych pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio)
  • y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, os ydych yn gwneud cais am fenthyciad myfyriwr
  • eich darparwr pensiwn os oes gennych bensiwn personol neu bensiwn rhanddeiliaid
  • darparwr eich Cyfrif Cynilo Unigol (ISA), os ydych yn agor ISA
  • darparwyr gwasanaethau ariannol awdurdodedig sy’n eich helpu i brynu a gwerthu buddsoddiadau, megis cyfranddaliadau, bondiau, a deilliadau. Gallwch wirio a yw’ch darparwr yn awdurdodedig (yn agor tudalen Saesneg)
  • Cyn-filwyr y DU