Trethu eich cerbyd

Trethu eich car, beic modur neu gerbyd arall gan ddefnyddio rhif cyfeirnod oddi ar un o’r canlynol:

  • nodyn atgoffa (V11W) diweddar neu lythyr rhybudd ‘cyfle olaf’ wrth DVLA
  • eich llyfr log cerbyd (V5CW) – mae’n rhaid ei fod yn eich enw
  • y slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd o lyfr log os ydych newydd ei brynu

Os nad oes gennych unrhyw un o’r dogfennau hyn, bydd angen ichi wneud cais am lyfr log newydd. Gallwch drethu eich cerbyd ar yr un pryd.

Gallwch dalu drwy gerdyn debyd neu gredyd, neu Ddebyd Uniongyrchol.

Mae’n rhaid ichi drethu’ch cerbyd hyd yn oed os nad oes angen ichi dalu unrhyw beth, er enghraifft os ydych wedi eich eithrio oherwydd eich bod yn anabl.

Bydd angen ichi fodloni’r holl rwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer gyrwyr cyn ichi allu gyrru.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gwasanaeth treth cerbyd DVLA
Rhif ffôn: 0300 123 4321
Gwasanaeth 24-awr
Cael gwybod mwy am gost galwadau

Ni allwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol dros y ffôn.

Mewn Swyddfa’r Post

Ewch i Swyddfa’r Post sy’n delio â threth cerbyd. Bydd angen ichi fynd ag un o’r canlynol gyda chi:

Ni fydd arnoch angen y manylion talu hyn os yw’ch cerbyd wedi’i eithrio rhag treth.

Mae hefyd angen ichi fynd ag un o’r canlynol gyda chi:

  • eich llyfr log cerbyd (V5CW) (mae’n rhaid ei fod yn eich enw)
  • y slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd o lyfr log os ydych newydd ei brynu

Hefyd mae’n bosibl y bydd angen ichi ddangos prawf o MOT (mae’n rhaid ei bod yn ddilys pan fydd y dreth yn dechrau). Er enghraifft, sgrin lun o hanes MOT eich cerbyd neu’ch tystysgrif MOT, os oes gennych un.

Gall gymryd i fyny at 2 ddiwrnod i wybodaeth MOT gael ei diweddaru, felly mae’n bosib na fyddwch yn gallu trethu eich cerbyd yn syth ar ôl iddo basio’i brawf.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

I drethu eich cerbyd mewn swyddfa’r post yng Ngogledd Iwerddon, bydd hefyd angen y ddau ganlynol arnoch:

  • copi papur o dystysgrif yswiriant neu sicrwydd yswiriant
  • tystysgrif prawf MOT wreiddiol neu brawf o Dystysgrif Eithrio Dros Dro (TEC)

Gallwch ddarparu prawf o’ch TEC gyda sgrin lun o hanes MOT eich cerbyd. Os na allwch wneud hyn, gallwch ddangos tystysgrif MOT sydd wedi dod i ben.  

Nid oes angen ichi wneud cais am dystysgrif MOT newydd.

Os yw’r cerbyd oddi ar y ffordd

Cofrestrwch fod eich cerbyd oddi ar y ffordd, er enghraifft eich bod yn ei gadw mewn garej. Nid oes angen ichi drethu eich cerbyd.

Newid dosbarth treth eich car i neu o ‘anabl’

Mae’n bosibl y bydd angen ichi newid dosbarth treth eich cerbyd, er enghraifft os yw un o’r canlynol yn gymwys:

  • roedd eich car wedi cael ei ddefnyddio gan berson anabl yn flaenorol
  • eich bod yn anabl ac yn trethu’ch car am y tro cyntaf

Gallwch dim ond gwneud cais mewn Swyddfa’r Post.