Gwirio pa gymorth y gallwch ei gael gyda chostau plant
Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gael gwybod faint allech ei gael tuag at ofal plant cymeradwy, gan gynnwys:
- gofal plant yn rhad ac am ddim i blant rhwng 2 a 4 oed
- help gyda chostau gofal plant os yw’ch plentyn o dan 16 oed (neu o dan 17 oed ac yn anabl)
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Beth mae angen i chi wybod
O fis Medi 2024 ymlaen, byddwch yn gallu cael 15 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim i’ch plentyn o 9 mis oed os ydych chi’n gweithio. Gallwch wneud cais o 12 Mai ymlaen.