Canllawiau

Gwirio statws cyflogaeth ar gyfer treth

Defnyddiwch y twlsyn Gwirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth (CEST) i weld a ddylech chi, neu weithiwr mewn swydd benodol, gael eich nodi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig at ddibenion treth.

Mae’r twlsyn Gwirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth yn rhoi barn CThEM am statws cyflogaeth gweithiwr, a hynny’n seiliedig ar yr wybodaeth a roddir gennych. Gellir hefyd ei ddefnyddio i wirio a allai newidiadau i delerau contractiol neu drefniadau gweithio newid statws cyflogaeth gweithiwr.

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r twlsyn i wneud penderfyniadau o ran statws cyflogaeth, ond gall eich helpu i benderfynu ar y canlynol:

  • statws cyflogaeth gweithiwr neu unigolyn rydych yn ei gyflogi neu’n ei gynrychioli
  • p’un a yw’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) yn berthnasol i gontract
  • p’un a fydd CThEM yn eich ystyried yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig at ddibenion treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, os oes gennych gontract gwaith (neu’n disgwyl cael un)

Mae’n rhaid i gontract fod ar waith er mwyn cael gwybod a yw’r gwaith yn cael ei ystyried yn gyflogaeth neu’n hunangyflogaeth. Mae’r twlsyn yn cymryd yn ganiataol bod contract ar waith, neu y bydd contract ar waith.

Bydd CThEM yn glynu wrth bob penderfyniad a gynhyrchir gan y twlsyn, cyn belled â bod yr wybodaeth a roddwch yn parhau i fod yn gywir. Gallwch ddefnyddio’r twlsyn eto os yw’r canlynol yn wir:

  • bu newid i gontract neu gytundeb gwasanaeth sydd ohoni
  • nid yw’r wybodaeth a roddwyd gennych yn wreiddiol yn gywir mwyach

Nid oes angen i chi wybod pwy yw’r gweithiwr er mwyn defnyddio’r twlsyn ― byddwch yn dal i gael canlyniad. Gallwch ddefnyddio’r twlsyn eto pan fyddwch yn gwybod pwy yw’r gweithiwr. Gall hyn alluogi’r twlsyn i ddarparu penderfyniad os nodwyd ‘methu â phenderfynu’ fel y canlyniad.

Pwy all ddefnyddio’r twlsyn

Gallwch ddefnyddio’r twlsyn i wirio statws cyflogaeth os ydych yn un o’r canlynol:

  • huriwr
  • asiantaeth
  • gweithiwr

Hirwyr

Os ydych yn huriwr, defnyddiwch y twlsyn os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn hurio, neu wedi hurio, gweithiwr yn uniongyrchol
  • rydych yn derbyn gwasanaethau gan weithiwr sy’n gweithredu drwy ei gyfryngwr tollau ei hun
  • bu newid i gontract neu gytundeb gwasanaeth sydd ohoni

Asiantaethau a chyflenwyr eraill

Os ydych yn asiantaeth neu’n drydydd parti arall, defnyddiwch y twlsyn os ydych am wneud y canlynol:

  • gwirio cywirdeb penderfyniad a roddwyd i chi
  • defnyddio’r penderfyniad fel rhan o broses anghytuno â statws o dan y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres

Gweithwyr

Os ydych yn weithiwr, defnyddiwch y twlsyn os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych am wirio cywirdeb penderfyniad a roddwyd i chi
  • rydych am ddefnyddio’r penderfyniad fel rhan o broses anghytundeb ynghylch statws o dan y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres
  • rydych yn darparu’ch gwasanaethau drwy gyfryngwr tollau i gleient bach nad yw yn y sector cyhoeddus ac mae angen i chi wneud penderfyniad fel rhan o’ch cyfrifoldebau o dan y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres

Efallai y byddwch am ddefnyddio’r twlsyn os bydd unrhyw un o’r meini prawf hyn yn berthnasol a bod newid wedi bod i gontract neu gytundeb gwasanaeth sydd ohoni.

Galwedigaethau penodol sy’n ddarostyngedig i reolau arbennig

Mae rheolau arbennig a all bennu statws at ddibenion Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, ar gyfer rhai gweithwyr, gan gynnwys:

  • glanhawyr swyddfa
  • cyflogaeth ddomestig gan briod, partner neu berthynas agos
  • arholwyr, safonwyr a goruchwylwyr

Cyn penderfynu defnyddio’r twlsyn, gwiriwch y rhestr lawn o swyddi y gall rheolau arbennig fod yn berthnasol iddynt yn y Canllaw Statws Cyflogaeth. Bydd hyn yn eich helpu i ddarganfod a yw statws ar gyfer Treth Incwm neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol eisoes wedi’i bennu.

Canlyniadau

Mae’r twlsyn yn darparu’r penderfyniadau canlynol yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwch:

  • cyflogedig at ddibenion treth ar gyfer y gwaith hwn
  • hunangyflogedig at ddibenion treth ar gyfer y gwaith hwn
  • mae rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) yn berthnasol
  • nid yw rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) yn berthnasol

Mae’n bosibl y byddwch yn cael canlyniad ‘methu â phenderfynu’. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y twlsyn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi i’ch helpu i ddod i’ch penderfyniad.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi wybod y canlynol:

  • manylion y contract
  • cyfrifoldebau’r gweithiwr
  • pwy sy’n penderfynu pa waith sydd angen ei wneud
  • pwy sy’n penderfynu pryd, ble a sut y gwneir y gwaith
  • sut y caiff y gweithiwr ei dalu
  • a yw’r gwaith yn cynnwys unrhyw fuddiannau corfforaethol neu ad-daliadau ar gyfer treuliau

Efallai yr hoffech fwrw golwg dros arweiniad pellach ar ddefnyddio’r twlsyn mewn ffenestr ar wahân i’ch helpu wrth i chi ei ddefnyddio.

Dechrau nawr

Mae’r twlsyn yn anhysbys. Rydym yn cofnodi ac yn cyhoeddi data cyfanredol, gan ddangos y dadansoddiad o’r canlyniadau a roddwyd gan y twlsyn. Nid ydym yn casglu manylion adnabod y rhai sy’n defnyddio’r twlsyn.

Ar ôl i chi ddefnyddio’r twlsyn

Byddwch yn gallu:

  • cadw ac argraffu’ch atebion a’ch canlyniad ar gyfer eich cofnodion eich hun
  • defnyddio’r canlyniad fel Datganiad Penderfynu Statws dilys wrth ystyried y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres
Cyhoeddwyd ar 2 March 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 May 2021 + show all updates
  1. The guidance has been updated to reflect off-payroll working changes that came into effect on 6 April 2021.

  2. Welsh translation added.

  3. The 'check employment status for tax' tool has been updated so if you do not know the worker, the tool will not ask questions about their circumstances.

  4. Added a link to the off-payroll working in the public sector guidance.

  5. First published.