Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr
Pa gynllun ad-dalu rydych chi arno
Pan fyddwch chi’n dechrau ad-dalu’ch benthyciad a faint rydych chi’n ei ad-dalu yn dibynnu ar eich cynllun ad-dalu.
Os nad ydych chi’n siŵr pa gynllun ad-dalu rydych chi arno, gallwch chi fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein i’w wirio.
Ni allwch ddewis eich cynllun ad-dalu. Os oes gennych chi fwy nag un benthyciad, fe allech chi fod ar gynlluniau gwahanol.
Os gwnaethoch gais i Student Finance England
Mae’r cynllun ad-dalu rydych chi arno’n dibynnu ar ba bryd y gwnaethoch chi ddechrau eich cwrs a pha fath o gwrs y gwnaethoch chi ei astudio.
Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar neu ar ôl Dydd Mawrth, 1 Awst 2023
Byddwch ar Gynllun 5 os:
-
ydych chi’n astudio cwrs israddedig
-
ydych yn astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)
-
ydych yn cymryd Benthyciad Dysgwr Uwch
Byddwch ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig os ydych yn astudio cwrs meistr neu ddoethuriaeth ôl-raddedig.
Byddwch ar Gynllun 2 os byddwch yn cymryd Benthyciad Cwrs Byr Addysg Uwch.
Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs rhwng 1 Medi 2012 a 31 Gorffennaf 2023
Byddwch ar Gynllun 2 os:
-
ydych chi’n astudio cwrs israddedig
-
ydych yn astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)
-
ydych yn cymryd Benthyciad Dysgwr Uwch
-
os byddwch yn cymryd Benthyciad Cwrs Byr Addysg Uwch
Byddwch ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig os ydych yn astudio cwrs meistr neu ddoethuriaeth ôl-raddedig.
Os dechreuoch eich cwrs cyn 1 Medi 2012
Rydych chi ar Gynllun 1.
Os gwnaethoch gais i Gyllid Myfyrwyr Cymru
Mae’r cynllun ad-dalu rydych chi arno’n dibynnu ar ba bryd y gwnaethoch chi ddechrau eich cwrs a pha fath o gwrs y gwnaethoch chi ei astudio.
Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2012
Rydych chi ar:
-
Cynllun 2 os buoch yn astudio cwrs israddedig neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)
-
cynllun Benthyciad Ôl-raddedig os buoch yn astudio cwrs meistr neu ddoethuriaeth ôl-raddedig
Os dechreuoch eich cwrs cyn 1 Medi 2012
Rydych chi ar Gynllun 1.
Os gwnaethoch gais i Student Awards Agency Scotland
Rydych chi ar Gynllun 4, p’un a wnaethoch chi astudio cwrs israddedig neu gwrs ôl-raddedig.
Os gwnaethoch gais i Student Finance Northern Ireland
Rydych chi ar Gynllun 1, p’un a wnaethoch chi astudio cwrs israddedig neu gwrs ôl-raddedig.
Os ydych chi’n meddwl eich bod ar y cynllun anghywir
Gwiriwch pa gynllun rydych chi arno trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein a lawrlwytho eich ‘llythyr math cynllun gweithredol’. Yna gofynnwch i’ch cyflogwr pa gynllun rydych chi arno.
Os yw’n wahanol i’r cynllun yn eich llythyr, dangoswch hwn i’ch cyflogwr fel y gallant ddiweddaru eich manylion cyflogres. Gallwch gael ad-daliad os gwnaethoch dalu gormod o’ch benthyciad yn ôl oherwydd eich bod ar y math anghywir o gynllun.