Adnewyddu neu newid trwydded lori neu fws

Sgipio cynnwys

Os ydych o dan 45 oed

Bydd DVLA yn anfon ffurflen ‘cais i adnewyddu hawl lori a bws’ (D47PWU) atoch 56 diwrnod cyn i’ch trwydded yrru ddod i ben. Mae’n rhad ac am ddim i adnewyddu eich trwydded lori neu fws.

Bydd angen ichi ddilyn y broses ar gyfer gyrwyr 45 oed a hŷn os yw eich trwydded yn dod i ben o fewn 56 diwrnod i’ch pen-blwydd yn 45 oed.

Os nad ydych am adnewyddu ond eich bod am barhau i yrru ceir a beiciau modur, rhaid ichi lenwi adran 2B o’r ffurflen D47PWU.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Sut i adnewyddu

  1. Cwblhewch ffurflen D47PWU.

  2. Anfonwch hi i DVLA ynghyd â’ch trwydded bresennol (oni bai bod angen ichi ei defnyddio’n fuan ar gyfer hyfforddiant gyrwyr).

DVLA
Abertawe
SA99 1BR

Archebwch pecyn D2 os nad ydych wedi derbyn y ffurflen D47PWU drwy’r post.

Mae’r broses yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Os oes angen ichi newid y ffotograff

Bydd eich ffurflen D47PWU yn dweud wrthych os oes angen ffotograff gyda’ch cais.

Os felly, bydd angen ichi gynnwys ffotograff math pasbort newydd.

Os yw eich enw wedi newid

Os yw eich enw wedi newid bydd hefyd angen ichi anfon dogfennaeth wreiddiol yn cadarnhau eich bod wedi newid eich enw.

Os oes gennych drwydded yrru bapur

Os oes gennych drwydded yrru bapur bydd hefyd angen ichi anfon:

Os ydych yn gwneud cais i yrru math arall o gerbyd

Mae angen ichi lenwi ffurflen D4 os nad ydych wedi cwblhau’r ffurflen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a naill ai:

  • rydych yn adnewyddu trwydded lori ac yn gwneud cais am drwydded fws dros dro

  • rydych yn adnewyddu trwydded fws ac yn gwneud cais am drwydded lori dros dro

Gyrru cyn i’ch trwydded gael ei dychwelyd

Gallwch yrru tra bod eich trwydded yn cael ei hadnewyddu os ydych yn bodloni’r holl amodau canlynol:

  • mae gennych gefnogaeth eich meddyg i barhau i yrru

  • roedd gennych drwydded ddilys

  • rydych dim ond yn gyrru o dan amodau’r drwydded flaenorol

  • mae eich cais yn llai na blwydd oed

  • ni chafodd eich trwydded ddiwethaf ei diddymu na’i gwrthod am resymau meddygol

  • nid ydych wedi’ch gwahardd ar hyn o bryd

  • ni chawsoch eich gwahardd fel troseddwr risg uchel ar neu ar ôl 1 Mehefin 2013

Darllenwch y canllawiau am ragor o wybodaeth ar yrru tra bod eich cais gyda DVLA.

Ar ôl ichi gael eich trwydded newydd

Anfonwch eich hen drwydded i DVLA, os nad ydych eisoes wedi’i hanfon.

DVLA
Abertawe
SA99 1BR