Adnewyddu eich trwydded yrru feddygol tymor byr

Gallwch adnewyddu eich trwydded yrru feddygol tymor byr os:

  • oes gennych un oherwydd cyflwr meddygol
  • yw’n ddilys am 1, 2, 3 neu 5 mlynedd
  • yw ar fin dod i ben, neu eisoes wedi dod i ben

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Adnewyddu ar-lein

Ar hyn o bryd, gallwch dim ond adnewyddu ar-lein os oes gennych ddiabetes, epilepsi, clefyd Parkinson, nam ar eich golwg, cyflwr cwsg, neu gyflwr y galon.

Bydd gennych un awr i ychwanegu gwybodaeth unwaith eich bod wedi dechrau. Ni allwch arbed a dychwelyd at eich cais yn ddiweddarach.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Cael gwybod am oedi posibl a phwy na all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Oedi os caiff eich cais ei gyfeirio at feddyg

Efallai y bydd eich cais yn cymryd yn hirach na’r arfer os bydd angen ei gyfeirio at feddyg (oni bai eich bod yn gwneud cais am drwydded bws neu lori).

Efallai y byddwch yn gallu gyrru tra bod DVLA yn ystyried eich cais os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych drwydded yrru gyfredol

  • nid yw’ch meddyg neu optegydd wedi dweud wrthych na ddylech yrru

Darllenwch ‘Gaf i yrru tra bod fy nghais gyda DVLA?’ am ragor o ganllawiau.

Pwy na all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:

Defnyddiwch wasanaeth arall i wneud cais am drwydded yrru os yw eich trwydded wedi ei thynnu yn ôl neu eich bod wedi’i ildio oherwydd cyflwr meddygol.

Adnewyddu drwy’r post

Gallwch hefyd adnewyddu eich trwydded yrru feddygol tymor byr drwy’r post. Bydd DVLA yn anfon ffurflen atgoffa atoch 90 diwrnod cyn i’ch trwydded ddod i ben.

Os na fyddwch yn derbyn ffurflen atgoffa, dylech gael ffurflen D1W gan Swyddfa’r Post a lawrlwytho a llenwi’r ffurflenni meddygol ar gyfer eich cyflwr. Anfonwch nhw i gyd i DVLA - mae’r cyfeiriad ar y ffurflenni.