Anfonwch eich manylion rhent, prydles neu berchenogaeth at Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Mae’n rhaid i chi anfon gwybodaeth am eiddo’ch busnes i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) os yw wedi gofyn i chi wneud hynny. Mae’n rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os nad ydych yn berchen ar yr eiddo nac yn ei rentu mwyach.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae sut byddwch yn anfon y manylion yn dibynnu ar y math o eiddo sydd gennych. Bydd angen i chi naill ai anfon y manylion:
- ar-lein
- drwy e-bost neu drwy’r post - os na all y busnes ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Os na fyddwch yn anfon yr wybodaeth cyn pen 56 diwrnod i chi gael y llythyr yr anfonodd y VOA atoch, efallai y bydd angen i chi dalu cosb.
Bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu yn cael ei defnyddio gan yr awdurdod lleol i helpu gyda chyfrifo ardrethi busnes yn eich ardal.
Gellid mynd â chi i’r llys os ydych yn cyflwyno gwybodaeth anwir.
Busnesau sydd ddim yn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Mae’n rhaid i chi anfon y manylion drwy e-bost neu drwy’r post os yw’ch busnes yn un o’r canlynol:
- safle carafannau
- rhwydwaith nwy
- gwesty, tŷ gwestai neu gartref gwyliau
- marchnad da byw
- marina
- marchnad
- masnachwr mwynau
- gwasanaeth oddi ar y draffordd
- gorsaf betrol
- piblinell
- tafarn, bar neu fwyty sy’n gwerthu alcohol
- maes chwaraeon neu gae ras anifeiliaid
- plasty
- rhwydwaith, mast neu orsaf delathrebu
- canolfan gyfran gyfnodol
Lawrlwytho’r ffurflen gywir ar gyfer y math o fusnes sydd gennych. Llenwch y ffurflen a’i hanfon ar e-bost at y tîm Ardrethu Arbenigol.
Ardrethu Arbenigol
specialist.rating@voa.gov.uk
Gallwch argraffu’r ffurflen a’i hanfon drwy’r post yn lle.
Valuation Office Agency
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW
Os ydych yn berchen ar neu’n meddiannu fwy nag 20 o eiddo
Gallwch anfon eich manylion prydles neu berchnogaeth mewn swmp gan ddefnyddio cynllun cyswllt ardrethu’r Swyddfa Brisio.
Efallai y bydd hyn yn gyflymach na llenwi ffurflenni ar-lein ar wahân.
Cynllun cyswllt ardrethu’r Swyddfa Brisio
vorc@voa.gov.uk
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
- y cyfeirnod o’r llythyr yr anfonodd y VOA atoch
- eich prydles neu gytundeb, gan gynnwys y rhent presennol rydych yn ei dalu neu unrhyw fanylion am y tenantiaid os mai chi yw’r perchennog
- gwybodaeth am unrhyw newidiadau diweddar i’ch rhent neu unrhyw gyfnodau heb dalu rhent
- manylion unrhyw is-osod
- gwybodaeth am unrhyw newidiadau a wnaethoch i’r eiddo, gan gynnwys costau
Anfon eich manylion ar-lein
Does dim rhaid i chi lenwi’r ffurflen gyfan ar un tro. Gallwch gadw’r hyn yr ydych wedi’i wneud a dychwelyd i’w orffen yn nes ymlaen.
Cysylltwch â thîm y VOA am help gyda defnyddio’r gwasanaeth.
Gallwch ddod o hyd i’w fanylion cyswllt ar y llythyr oddi wrth y VOA.