Apelio dirwy DVLA

Efallai y gallwch apelio yn erbyn dirwy a gawsoch am:

  • beidio â threthu neu yswirio eich cerbyd
  • peidio â dweud wrth DVLA nad yw’r cerbyd gennych bellach

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhesymau y gallwch apelio

Gallwch apelio i DVLA os oes gennych brawf:

  • eich bod wedi trethu’ch cerbyd
  • roedd gennych yswiriant ar gyfer eich cerbyd
  • eich bod eisoes wedi dweud wrth DVLA nad ydych bellach yn geidwad y cerbyd

Rhaid i’ch prawf (er enghraifft, llythyr cydnabyddiaeth gan DVLA) fod wedi’i ddyddio cyn y drosedd.

Ni allwch apelio os gwnaethoch chi:

  • newid eich cyfeiriad ond ni wnaethoch ddweud wrth DVLA
  • colli’ch gwaith papur neu na chawsoch nodyn atgoffa gan DVLA
  • anghofio neu roeddech i ffwrdd pan oedd yn rhaid ichi drethu, yswirio neu gofrestru’ch cerbyd fel oddi ar y ffordd (HOS)
  • methu taliad Debyd Uniongyrchol oherwydd problem gyda’ch banc

Rhaid ichi dalu’r ddirwy cyn gynted â phosibl os nad oes gennych reswm dilys.

Gallwch dalu ar-lein am ddirwyon treth cerbyd a HOS, ond mae’n rhaid ichi dalu pob dirwy arall dros y ffôn neu drwy’r post. Bydd eich llythyr yn dweud wrthych sut i dalu.

Os nad ydych yn talu’r ddirwy gall eich cerbyd gael ei glampio neu’i falu, gall eich manylion gael eu rhoi i asiantaeth casglu dyledion, neu gellir mynd â chi i’r llys.

Sut i apelio

Bydd y llythyr a gawsoch gan DVLA sy’n dweud eich bod wedi cael dirwy yn dweud wrthych sut i apelio a pha mor hir sydd gennych.

Os ydych wedi colli eich llythyr gallwch apelio’n ysgrifenedig i DVLA:

Canolfan Gorfodaeth DVLA

D12

DVLA

Abertawe

SA99 1AH

Rhaid ichi gynnwys rhif cofrestru eich cerbyd.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd DVLA yn cysylltu â chi ar ôl iddynt gael eich apêl i ddweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf.