Cael treth cerbyd am ddim os ydych yn yrrwr ag anabledd

Efallai na fydd yn rhaid ichi dalu treth cerbyd naill ai:

  • os ydych yn yrrwr anabl

  • os oes gennych fath penodol o gerbyd

Dim ond ar un cerbyd ar y tro y gallwch ddefnyddio eich eithriad. Os oes gennych fwy nag un cerbyd, bydd angen ichi ddewis pa un fydd yn cael ei eithrio rhag treth cerbyd.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf

Os oes gennych gerbyd ail-law, bydd angen ichi fynd i gangen Swyddfa’r Post sy’n delio â threth cerbyd.

I ddod o hyd i gangen Swyddfa’r Post, gallwch naill ai:

Swyddfa’r Post  
Rhif ffôn: 0845 722 3344 
Cael gwybod am gostau galwadau

Darllenwch am wneud cais am eithriad rhag treth cerbyd.

Adnewyddu eich eithriad rhag treth cerbyd

Gallwch adnewyddu eich eithriad rhag treth cerbyd ar-lein neu dros y ffôn.

Ad-daliadau ar eich treth cerbyd presennol

Byddwch yn cael ad-daliad awtomatig am unrhyw fisoedd llawn o dreth cerbyd sy’n weddill pan fyddwch yn gwneud cais am eithriad. Bydd yr ad-daliad yn cael ei anfon i’r cyfeiriad sydd gan DVLA ar ei chofnod.

Gwiriwch pa gerbydau nad oes angen ichi dalu treth arnynt

Nid oes rhaid ichi dalu treth ar rai mathau o gerbyd, er enghraifft:

  • cerbydau teithwyr anabl

  • cerbydau symudedd a chadeiriau olwyn

Gwiriwch pa fathau o gerbydau sydd wedi’u heithrio rhag treth cerbyd.