Cap ar fudd-daliadau
Pan fydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol
Efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol am hyd at 9 mis. Gelwir hyn yn ‘gyfnod gras’.
Fe gewch y cyfnod gras os yw pob un o’r canlynol yn wir:
- rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol oherwydd rydych wedi stopio gweithio neu oherwydd bod eich enillion wedi gostwng
- rydych nawr yn ennill llai na £793 y mis
- ym mhob un o’r 12 mis cyn i’ch enillion ostwng neu i chi roi’r gorau i weithio, gwnaethoch ennill yr un faint neu’n fwy na’r trothwy enillion (roedd hyn yn £722 hyd at 7 Ebrill 2024 ac yn £793 o 8 Ebrill 2023)
Bydd enillion eich partner yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo faint wnaethoch ei ennill hyd yn oed os nad ydynt yn hawlio budd-daliadau. Os ydych wedi gwahanu oddi wrth eich partner, bydd eu henillion yn cael eu cynnwys am yr amser y buoch yn byw gyda nhw cyn i chi wahanu.
Mae angen i chi roi gwybod i ni am eich enillion am y 12 mis diwethaf pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol i gael y cyfnod gras.
Ni fydd y cap budd-dal yn effeithio arnoch os ydych chi neu’ch partner yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd bod gennych anabledd neu gyflwr iechyd neu oherwydd eich bod yn gofalu am rywun sydd ag anabledd neu os ydych yn ennill £793 neu’n fwy rhyngoch chi.
Sut mae’r cyfnod gras o 9 mis yn gweithio
Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd y cyfnod gras yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod asesu pan aeth eich enillion yn is na’r trothwy enillion. Y trothwy oedd £722 hyd at 7 Ebrill 2023 ac yn £793 o 8 Ebrill 2023.
Os ydych yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, mae’r cyfnod gras yn dechrau o un o’r canlynol:
- y diwrnod ar ôl y diwrnod olaf y buoch yn gweithio
- y diwrnod cyflog pan aeth eich enillion yn is na’r trothwy enillion (roedd hyn yn £722 hyd at 7 Ebrill 2023 ac yn £793 o 8 Ebrill 2023)
Mae’r cyfnod gras o 9 mis yn parhau os byddwch yn stopio hawlio Credyd Cynhwysol ac yna’n dechrau eto.
Enghraifft Mae eich cyfnod gras o 9 mis yn dechrau ar 1 Chwefror.
Rydych yn cael swydd ar 1 Mai ac mae’ch budd-dal yn dod i ben. Rydych yn stopio gweithio ac yn hawlio eto o 1 Awst.
Bydd eich cyfnod gras o 9 mis yn dod i ben ar 31 Hydref.
Ar ôl i’r cyfnod gras o 9 mis ddod i ben, bydd swm y Credyd Cynhwysol a gewch fel arfer yn gostwng. Efallai na fydd yn gostwng os bydd eich amgylchiadau’n newid ac nad yw’r cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch.