Sgrapio eich cerbyd a cherbydau sydd wedi’u diddymu gan gwmni yswiriant
Printable version
1. Sut i sgrapio eich cerbyd
Pan fydd eich cerbyd wedi cyrraedd diwedd ei ddefnyddioldeb, rhaid ichi ei sgrapio mewn cyfleuster trin awdurdodedig (ATF). Gelwir y rhain weithiau yn iard sgrap neu iard dorri.
Mae yna broses wahanol os yw eich cwmni yswiriant wedi datgan bod eich cerbyd yn anadferadwy (wedi’i ddiddymu).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sgrapio eich cerbyd heb gadw unrhyw rannau
-
Gwneud cais i dynnu’r rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych am ei gadw.
-
Sgrapio eich cerbyd mewn ATF. Mae hyn fel arfer am ddim.
-
Rhoi llyfr log y cerbyd (V5C) i’r ATF, ond cadwch yr adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu gyfnewid eich cerbyd yn rhannol i’r fasnach foduro’ ohono.
Gallwch gael dirwy o £1,000 os na fyddwch yn dweud wrth DVLA.
Sgrapio eich cerbyd a chadw rhannau ohono
Gallwch gymryd rhannau o’ch cerbyd cyn ichi ei sgrapio fel y gallwch eu defnyddio i atgyweirio cerbyd arall.
-
Dweud wrth DVLA bod y cerbyd oddi ar y ffordd tra’ch bod yn cymryd rhannau ohono. Rhaid ei gadw oddi ar y ffordd, er enghraifft mewn garej, ar lôn y tŷ neu ar dir preifat.
-
Gwneud cais i dynnu’r rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych am ei gadw.
-
Sgrapio eich cerbyd mewn ATF pan fyddwch wedi gorffen cymryd rhannau ohono. Gall yr ATF godi ffi os ydych chi wedi tynnu rhannau hanfodol, fel yr injan, blwch gêr, corff neu olwynion.
-
Rhoi llyfr log y cerbyd (V5CW) i’r ATF, ond cadwch yr adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid’ ohono.
Sgrapio cerbyd sydd wedi’i gofrestru dramor
Os oes gennych gerbyd sydd wedi’i gofrestru y tu allan i’r DU sydd wedi’i ddosbarthu fel ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’, ni fyddwch yn gallu ei gofrestru na’i drethu yn y DU. Mae difrod difrifol yn golygu nad oes modd atgyweirio’r cerbyd - gallai ddweud rhywbeth fel ‘cerbyd wedi’i ddiddymu’n statudol’ (‘statutory write-off’), ‘wedi’i sgrapio’ neu ‘anadferadwy’ ar y dystysgrif gofrestru.
Os yw’r cerbyd wedi’i ddifrodi, gwiriwch a yw ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’ gyda’r awdurdod cofrestru ar gyfer y wlad y mae’r cerbyd yn dod ohoni.
Os nad yw ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’, gofynnwch iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn.
I’w sgrapio unwaith y bydd yn y DU, rhaid ichi ddefnyddio ATF.
Byddwch yn derbyn ‘Tystysgrif Dinistrio’ i brofi bod y cerbyd wedi cael ei ddinistrio.
Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth yr awdurdod gyrru yn y wlad lle mae’r cerbyd wedi’i gofrestru ei fod wedi cael ei sgrapio.
2. Ble y gallwch chi sgrapio eich cerbyd
Dewch o hyd i gyfleuster trin awdurdodedig (ATF) ble y gellir sgrapio eich cerbyd.
Pan fydd gan yr ATF eich cerbyd, gallant benderfynu:
- i’w sgrapio’n llwyr
- i’w atgyweirio a’i werthu eu hunain
Mae’n anghyfreithlon i sgrapio’ch cerbyd yn unrhyw le arall.
Os yw eich cerbyd wedi cael ei sgrapio’n llwyr
Bydd yr ATF yn rhoi ‘tystysgrif dinistrio’ ichi o fewn 7 diwrnod os ydych wedi sgrapio:
- car
- fan ysgafn
- cerbyd modur 3-olwyn (ond nid beic modur tair olwyn)
Ni fyddwch yn derbyn tystysgrif ar gyfer mathau eraill o gerbyd.
Mae’r dystysgrif yn brawf eich bod wedi trosglwyddo’r cerbyd i’w sgrapio. Os nad yw gennych chi, fe allech chi fod yn atebol o hyd am:
- gosbau troseddau traffig
- treth cerbyd
Cael eich talu am eich cerbyd sydd wedi cael ei sgrapio
Bydd yr ATF yn talu gwerth sgrap eich cerbyd ichi.
Mae’n anghyfreithlon i gael eich talu mewn arian parod os yw’ch cerbyd yn cael ei sgrapio yng Nghymru neu Loegr. Mae’n rhaid ichi gael eich talu trwy drosglwyddiad banc neu siec.
Os yw’r ATF yn atgyweirio ac yn gwerthu’ch cerbyd
Ni chewch dystysgrif dinistrio os bydd yr ATF yn penderfynu atgyweirio a gwerthu eich cerbyd.
Gallwch gael eich talu am eich cerbyd trwy unrhyw ddull, gan gynnwys arian parod.
3. Cerbydau sydd wedi’u datgan fel anadferadwy gan gwmni yswiriant
Pan fyddwch yn gwneud hawliad yswiriant oherwydd bod eich cerbyd wedi’i ddifrodi, bydd eich cwmni yswiriant yn dweud wrthych:
- a yw eich cerbyd yn cael ei ‘ddiddymu’ (hynny yw, yn anadferadwy)
- faint y byddant yn ei dalu ichi
Pan fydd eich cerbyd yn cael ei ddiddymu, bydd eich cwmni yswiriant yn talu gwerth cyfredol y cerbyd ichi, yn hytrach na chost i’w atgyweirio.
Bydd eich cwmni yswiriant yn penderfynu a ddylai’r cerbyd gael ei ddiddymu neu beidio.
Categorïau diddymu
Mae’r hyn a wnewch nesaf yn dibynnu ar ba gategori y mae eich cerbyd ynddo.
Categori | Atgyweirio’r cerbyd | Defnyddio’r cerbyd |
---|---|---|
A | Ni ellir ei atgyweirio | Rhaid malu’r cerbyd cyfan |
B | Ni ellir ei atgyweirio | Rhaid malu’r corff, ond gallwch chi achub rhannau eraill ohono |
C | Gellir ei atgyweirio, ond byddai’n costio mwy na gwerth y cerbyd | Gallwch ddefnyddio’r cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i’r ffordd fawr |
D | Gellir ei atgyweirio a byddai’n costio llai na gwerth y cerbyd, ond mae costau eraill (fel cludo’ch cerbyd) yn mynd ag ef dros werth y cerbyd | Gallwch ddefnyddio’r cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i’r ffordd fawr |
N | Gellir ei atgyweirio yn dilyn difrod anstrwythurol | Gallwch ddefnyddio’r cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i’r ffordd fawr |
S | Gellir ei atgyweirio yn dilyn difrod strwythurol | Gallwch ddefnyddio’r cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i’r ffordd fawr |
Beth sydd angen ichi ei wneud
Bydd eich cwmni yswiriant fel arfer yn delio â chael gwared ar y cerbyd ar eich rhan. Mae angen ichi ddilyn y camau hyn.
-
Gwneud cais i dynnu’r rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych am ei gadw.
-
Anfon y llyfr log cerbyd (V5CW) i’ch cwmni yswiriant, ond cadw’r adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu gyfnewid eich cerbyd i’r fasnach foduro’ ohono.
Gallwch gael dirwy o £1,000 os na fyddwch yn dweud wrth DVLA.
Cadw’r cerbyd
Os ydych am gadw cerbyd yng nghategori C, D, N neu S, bydd y cwmni yswiriant yn rhoi taliad yswiriant ichi ac yn gwerthu’r cerbyd yn ôl ichi.
I gadw cerbyd categori C neu S, mae angen ichi hefyd:
- anfon y llyfr log cyflawn at eich cwmni yswiriant
- gwneud cais am lyfr log dyblyg am ddim gan ddefnyddio ffurflen V62W
Bydd DVLA yn cofnodi categori’r cerbyd yn y llyfr log.
Gallwch gadw’r llyfr log os ydych am gadw cerbyd categori D neu N.