Chwilio am bridiannau tir lleol ar dir ac eiddo
Gall pridiannau tir lleol gyfyngu ar y ffordd rydych yn defnyddio tir ac eiddo. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- amodau cynllunio
- cytundebau priffyrdd
- gorchmynion cadw coed
- ardaloedd cadwraeth
- adeiladau rhestredig
- hysbysiadau iechyd yr amgylchedd
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i edrych am bridiannau tir lleol yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Nid yw’r holl ddata ar y gwasanaeth hwn eto. Mae modd gweld a yw awdurdod lleol wedi ychwanegu ei ddata yn gyntaf.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi greu cyfrif i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Nid oes ffi i wneud chwiliad ond gallwch dalu £15 i gael tystysgrif chwiliad swyddogol.
Mae modd cysylltu â Chofrestrfa Tir EF gydag unrhyw ymholiadau ynghylch defnyddio’r gwasanaeth hwn.