Codau trwydded yrru

Mae’r codau a argraffwyd ar gefn eich trwydded yrru yn dweud wrthych pa amodau y mae’n rhaid ichi eu bodloni i yrru.

Efallai bod rhai codau yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Mae’r codau a’u hystyron fel a ganlyn:

01 - cywiro golwg, er enghraifft sbectol neu lensys cyffwrdd
02 - cymorth clyw/cyfathrebu
10 - trawsyriant wedi’i addasu
15 - clytsh wedi’i addasu
20 - systemau brecio wedi’u haddasu
25 - systemau cyflymydd wedi’u haddasu
30 - systemau brecio a chyflymydd wedi’u cyfuno (ar gyfer trwyddedau a gyhoeddwyd cyn 28 Tachwedd 2016)
31 - addasiadau pedal a diogelwch pedalau
32 - systemau gwasanaeth brêc a chyflymydd wedi’u cyfuno
33 - systemau gwasanaeth brêc, cyflymydd a llywio wedi’u cyfuno
35 - gosodiadau rheoli wedi’u haddasu
40 - llywio wedi’i addasu
42 - drych(au) ôl-edrych wedi’u haddasu
43 - seddau gyrru wedi’u haddasu
44 - addasiadau i feiciau modur
44 (1) - brêc a weithredir yn unigol
44 (2) - brêc olwyn flaen a addaswyd
44 (3) - brêc olwyn ôl a addaswyd
44 (4) - cyflymydd a addaswyd
44 (5) - trawsyriant llaw a chlytsh llaw (a addaswyd)
44 (6) - drych(au) ôl-edrych (a addaswyd)
44 (7) - gorchmynion (a addaswyd) (arwyddion cyfeiriad, golau brêc, ac ati)
44 (8) - uchder sedd sy’n caniatáu i’r gyrrwr, ar ei eistedd, i gael dwy droed ar yr arwynebedd ar yr un pryd a chydbwyso’r beic modur yn ystod stopio a sefyll
44 (11) - troedfainc wedi’i haddasu
44 (12) - carn llaw wedi’i addasu
45 - beiciau modur yn unig gydag ystlysgar
46 - beiciau tair olwyn yn unig
70 - cyfnewid trwydded
71 - copi dyblyg o drwydded
78 - cyfyngedig i gerbydau gyda thrawsyriant awtomatig
79 - cyfyngedig i gerbydau i gydymffurfio â’r disgrifiadau a ddatgenir mewn cromfachau ar eich trwydded
79 (2) - cyfyngedig i gerbydau categori AM o’r math beic 3 olwyn neu bedair olwyn ysgafn
79 (3) - cyfyngedig i feiciau tair olwyn
96 - caniateir gyrru cerbyd ac ôl-gerbyd lle mae’r ôl-gerbyd yn pwyso o leiaf 750kg, ac mae pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd rhwng 3,500kg a 4,250kg
97 - ni chaniateir gyrru cerbydau categori C1 y mae’n ofynnol iddynt gael tacograff wedi’i osod
101 - ddim ar gyfer hurio neu dâl (hynny yw, ddim i wneud elw)
102 - ôl-gerbydau bar tynnu’n unig
103 - yn amodol ar dystysgrif cymhwysedd
105 - cerbyd heb fod yn fwy na 5.5 metr o hyd
106 - cyfyngedig i gerbydau gyda thrawsyriannau awtomatig
107 - dim mwy na 8,250 cilogram
108 - yn amodol ar ofynion isafswm oedran
110 - cyfyngedig i gludo pobl gyda symudedd cyfyngedig
111 - cyfyngedig i 16 o seddau i deithwyr
113 - cyfyngedig i 16 o seddau i deithwyr heblaw am gerbydau awtomatig
114 - gydag unrhyw rheolyddion arbennig sydd eu hangen ar gyfer gyrru’n ddiogel
115 - rhoddwr organau
118 - y dyddiad cychwyn ar gyfer yr hawl gynharaf
119 - nid yw’r terfyn pwysau ar gyfer y cerbyd yn gymwys
121 - cyfyngedig i amodau a bennir yn hysbysiad yr Ysgrifennydd Gwladol 122 - yn ddilys wedi’i gwblhau’n llwyddiannus: Cwrs Hyfforddiant Moped Sylfaenol. Nid yw hyn yn berthnasol i e-sgwteri treial
125 - beiciau tair olwyn yn unig (am drwyddedau a gyhoeddwyd cyn 29 Mehefin 2014)