Cofrestru fel cyflogwr
Fel arfer, mae’n rhaid i chi gofrestru fel cyflogwr gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) pan fyddwch yn dechrau cyflogi staff, neu ddefnyddio is-gontractwyr ar gyfer gwaith adeiladu (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i chi gofrestru hyd yn oed os mai dim ond chi eich hun rydych yn ei gyflogi, er enghraifft fel unig gyfarwyddwr cwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn y diwrnod cyflog cyntaf. Mae’n gallu cymryd hyd at 20 diwrnod gwaith i gael eich Cyfeirnod TWE y Cyflogwr. Ni allwch gofrestru fwy na 2 fis cyn i chi ddechrau talu pobl.
I dalu cyflogai cyn i chi gael eich Cyfeirnod TWE y Cyflogwr, dylech wneud y canlynol:
-
Rhedeg y gyflogres.
-
Storio’ch Cyflwyniad Taliadau Llawn.
-
Anfon Cyflwyniad Taliadau Llawn hwyr (yn agor tudalen Saesneg) at CThEF.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os ydych yn gwmni cyfyngedig gydag 1 i 9 o gyfarwyddwyr
Gall y rhan fwyaf o gwmnïau cyfyngedig gofrestru ar-lein.
Gallwch hefyd barhau â chais os ydych eisoes wedi dechrau cofrestru.
Ar ôl i chi gofrestru
Gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl cael eich Cyfeirnod TWE y Cyflogwr oddi wrth CThEF.
Mathau eraill o fusnes
Dysgwch sut i gofrestru.