Costau tai a Chredyd Cynhwysol

Sgipio cynnwys

Rhentu gan yr awdurdod lleol neu'r gymdeithas dai

Os ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol gallwch gael help i dalu eich rhent a rhai taliadau gwasanaeth.

Rydych fel arfer yn cael y swm ychwanegol ar gyfer chostau tai yn eich taliad Credyd Cynhywsol ac mae’n rhaid i chi ei dalu i’ch landlord.

Gallwch hefyd gael help â’ch biliau o’ch prif daliad Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn byw mewn eiddo perchenogaeth ar y cyd, gallech gael Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI) hefyd.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael Gostyngiad Treth Cyngor.

Talu taliadau gwasanaeth

Gall Credyd Cynhwysol helpu i dalu am rhai taliadau gwasanaeth, gan gynnwys:

  • defnyddio cyfleusterau a rennir, fel casglu sbwriel neu lifftiau cymunedol
  • defnyddio eitemau hanfodol yn eich cartref, fel offer domestig
  • glanhau ffenestri’r lloriau uchaf

Os ydych chi’n byw gyda rhywun sy’n 21 oed neu’n hŷn ac nad ydynt yn bartner i chi

Bydd y swm o arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai yn cael ei leihau os ydych yn byw gyda rhywun sy’n 21 oed neu’n hŷn nad yw’n bartner i chi.

Ni fydd y swm yn cael ei leihau os ydych yn un o’r canlynol:

  • cael elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar y gyfradd ganolig neu uwch
  • cael elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • cael Lwfans Gweini
  • cael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • wedi eich cofrestru’n ddall

Hefyd ni chaiff ei leihau os yw’r person 21 oed neu hŷn yn un o’r canlynol:

  • cael Credyd Pensiwn
  • cael elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar y gyfradd ganolig neu uwch
  • cael elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • cael Lwfans Gweini
  • cael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • cael Lwfans Gofalwr
  • yn gyfrifol am blentyn o dan 5 oed
  • yn aelod o’r lluoedd arfog i ffwrdd ar weithrediadau ac yn blentyn neu’n llysblentyn i chi
  • eich is-denant, lletywr neu breswylydd
  • yn garcharor

Os ydych yn talu rhent ar 2 gartref

Gallwch hawlio rhent ar 2 gartref ar yr un pryd os yw’r naill neu’r llall o’r ganlynol yn berthnasol:

  • mae’r awdurdod tai wedi cartrefu eich teulu mewn 2 eiddo oherwydd bod eich teulu’n fawr
  • rydych wedi symud allan oherwydd ofn trais neu gamdriniaeth, yn talu rhent yn rhywle arall, a’n bwriadu dod yn ôl
  • rydych wedi dechrau rhentu cartref newydd gydag aelod o’r teulu sy’n anabl ond nad yw wedi’i gael ei addasu i’w hanghenion eto

Os oes gennych fwy o ystafelloedd nag sydd eu hangen ar eich cartref

Gellir lleihau’r swm o arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai os oes gennych fwy o ystafelloedd nag sydd eu hangen arnoch. Gelwir hyn yn ‘cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr’.

Bydd y swm yn cael ei leihau:

  • gan 14% os oes gennych 1 ystafell wely sbâr
  • gan 25% os oes gennych 2 neu fwy o ystafelloedd gwely sbâr

Os ydych ar ei hôl hi â’ch rhent

Os ydych ar ei hôl hi â’ch rhent, gallai’r arian a gewch ar gyfer chostau tai gael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch landlord. Gelwir hyn yn drefniant talu amgen (APA).

Gallwch wneud cais am APA trwy’ch anogwr gwaith neu reolwr achosion. Gall eich landlord hefyd wneud y cais.

Os nad yw’r arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai yn cwmpasu eich holl rent

Ni fydd y swm ychwanegol o arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai yn cwmpasu eich holl rent pob tro. Efallai bydd angen i chi dalu gweddill eich rhent o’ch taliad Credyd Cynhwysol neu incwm arall.

Efallai gallwch gael help ychwanegol gan eich cyngor lleol gyda’ch rhent a chostau tai eraill, er enghraifft blaendal rhent neu gostau symud. Gelwir hyn yn ‘Daliad Disgresiwn at Gostau Tai’.

I wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai, cysylltwch â’ch cyngor lleol