Cael cydnabyddiaeth gan CThEF ar gyfer eich elusen
Gallwch gofrestru manylion eich elusen gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) er mwyn cael treth yn ôl ar bethau megis cyfraniadau Rhodd Cymorth.
Gallwch hefyd barhau â chais a oedd wedi’i gadw’n flaenorol.
Defnyddiwch ffurflen newid manylion ChV1 os ydych eisoes wedi cofrestru ond am newid eich manylion.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyn i chi ddechrau
Gwiriwch a oes angen i chi gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (yn agor tudalen Saesneg) cyn cofrestru gyda CThEF.
Cofrestru gyda CThEF
Bydd angen manylion canlynol eich elusen arnoch:
-
manylion cyfrif banc a chyfrifon ariannol
-
manylion y swyddogion (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys dyddiadau geni a rhifau Yswiriant Gwladol
-
rhif cofrestru (yn agor tudalen Saesneg) os ydych wedi cofrestru’ch elusen â rheoleiddiwr elusennau
-
nodau elusennol yr elusen (yn agor tudalen Saesneg) (a elwir weithiau’n ‘dibenion’)
-
dogfen lywodraethu (yn agor tudalen Saesneg) (a elwir weithiau’n ‘llyfr rheolau’) - mae hwn yn esbonio sut y mae’ch elusen yn cael ei rhedeg
Bydd angen i chi fewngofnodi i wneud cais. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.