Cyfrif treth personol: mewngofnodi neu sefydlu

Defnyddiwch eich cyfrif treth personol i wirio’ch cofnodion a rheoli’ch manylion gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF).

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallwch wneud y canlynol:

  • gwirio’ch amcangyfrif o Dreth Incwm a’ch cod treth

  • llenwi, anfon a bwrw golwg dros Ffurflen Dreth bersonol

  • gwneud cais am ad-daliad treth

  • gwirio’ch incwm o waith yn ystod y 5 mlynedd flaenorol

  • gwirio faint o Dreth Incwm a dalwyd gennych yn ystod y 5 mlynedd flaenorol

  • gwirio a rheoli’ch credydau treth

  • gwirio’ch Pensiwn y Wladwriaeth

  • olrhain ffurflenni treth rydych wedi’u cyflwyno ar-lein

  • gwirio neu ddiweddaru’ch Lwfans Priodasol

  • rhoi gwybod i CThEF am newid enw neu gyfeiriad

  • gwirio neu ddiweddaru buddiannau a gewch o’r gwaith, er enghraifft, manylion car cwmni ac yswiriant meddygol

  • dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol

  • dod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)

  • gwirio’ch bil treth Asesiad Syml

Cyn i chi ddechrau

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Bydd angen i chi brofi pwy ydych er mwyn cofrestru ar gyfer Porth y Llywodraeth, os nad ydych wedi’i ddefnyddio o’r blaen.

Bydd angen arnoch eich rhif Yswiriant Gwladol neu’ch cod post yn y DU a hyd at ddau o’r canlynol:

  • pasbort dilys y DU neu basbort nad yw o’r DU sydd â sglodyn biometrig

  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU, a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)

  • cerdyn preswylio biometrig y DU neu drwydded breswylio fiometrig y DU

  • slip cyflog o’r tri mis diwethaf neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf

  • manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un

  • manylion o Ffurflen Dreth Hunanasesiad, os gwnaethoch gyflwyno un

  • gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)

Gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os nad ydych yn ei wybod, neu os ydych wedi’i golli.

Mewngofnodi i’ch Cyfrif Treth Personol, neu ei sefydlu

Dechrau nawr