Cael cyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth
Gallwch gael cyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth i ddarganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth allwch chi ei gael a’r nifer o flynyddoedd cymhwyso sydd ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Bydd rheolau Pensiwn y Wladwriaeth yn newid ar 6 Ebrill 2016. Darganfyddwch os fyddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth presennol neu’r Pensiwn y Wladwriaeth newydd.
Defnyddiwch y gyfrifianell i ddarganfod pryd fyddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth unrhyw bryd ar ôl 30 diwrnod
I gael cyfriflen gallwch un ai:
- lenwi’r ffurflen gais BR19W a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen
- ffonio Canolfan Pensiwn y Dyfodol
Os ydych o dan 55 oed, gallwch hefyd cael amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol efallai y gallwch ei gael.
Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn pen 30 diwrnod
Ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn i gael cyfriflen os:
- rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn barod
- byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth mewn 30 diwrnod neu lai
Os ydych wedi talu Yswiriant Gwladol yn Ynys Manaw
Nid yw Ynys Manaw yn cyflwyno Pensiwn newydd y Wladwriaeth o 6 Ebrill 2016 , felly efallai y bydd eich datganiad yn anghywir os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
- byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016
- ydych wedi gweithio a thalu Yswiriant Gwladol yn Ynys Manaw ar unrhyw adeg
Cysylltwch â’r Canolfan Pensiwn y Dyfodol os oes angen mwy o wybodaeth.