Cyfrifo treth ar geir cwmni cyflogeion
Fel cyflogwr, os ydych yn darparu ceir cwmni neu danwydd at ddefnydd preifat eich cyflogeion, bydd angen i chi gyfrifo’r gwerth trethadwy fel y gallwch roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) amdano.
Mae ‘defnydd preifat’ yn cynnwys teithiau cyflogeion rhwng y cartref a’r gwaith, oni bai eu bod yn teithio i weithle dros dro.
Dysgwch ragor am dreth ar geir cwmni os ydych yn gyflogai (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyfrifo gwerth trethadwy
Gallwch gyfrifo gwerth trethadwy gan ddefnyddio meddalwedd fasnachol y gyflogres.
Neu gallwch ddefnyddio cyfrifiannell car cwmni a thanwydd car CThEF.
Defnyddio cyfrifiannell CThEF
Dewiswch fath o danwydd ‘F’ ar gyfer ceir diesel sy’n cyrraedd safon Euro 6d (a elwir hefyd yn Allyriadau Gyrru Gwirioneddol 2). Dewiswch fath ‘D’ ar gyfer ceir diesel eraill.
Dewiswch fath ‘A’ ar gyfer pob car arall.
Gallwch wirio allyriadau CO2 car (yn agor tudalen Saesneg).
Ar gyfer ceir trydan a cheir eraill sydd â ffigur allyriadau CO2 cymeradwy o 75g/km neu lai, atebwch ‘na’ i’r cwestiwn ‘a yw’r car yn cael ei ddarparu ar drefniant opsiynol ar gyfer tâl?’.
Os oes gan eich car ffigur allyriadau CO2 cymeradwy o 1 i 50g/km, bydd angen i chi hefyd lenwi’r blwch ar gyfer ‘milltiroedd allyriadau sero’ (a elwir hefyd yn ystod drydan). Dyma’r pellter y gall y car ei fynd ar bŵer trydan cyn bod angen ailwefru’r batri.
Gallwch gael eich ffigur milltiroedd allyriadau sero o’r canlynol:
- tystysgrif cydymffurfio eich cerbyd, os ydych chi’n berchen ar y car
- y cwmni prydlesu neu ddarparwr y fflyd, os ydych yn prydlesu’r car
Cyfrifo’r gwerth â llaw
Gallwch hefyd gyfrifo’r gwerth â llaw ar daflen waith 2 P11D (yn agor tudalen Saesneg).
Gwerth trethadwy ceir
Nid yw gwerth trethadwy car yr un fath â’i gost. Mae’r gwerth trethadwy hefyd yn dibynnu ar y canlynol:
- math o danwydd a lefel allyriadau CO2 (yn agor tudalen Saesneg) y car
- faint o amser nad yw’r car ar gael yn ystod y flwyddyn dreth (er enghraifft, oherwydd nam mecanyddol)