Beth i ddod i'ch cyfweliad Canolfan Byd Gwaith

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad wyneb yn wyneb mewn Canolfan Byd Gwaith, bydd angen i chi ddod â ID a dogfennau gyda chi.

Bydd angen i chi ddod â’r gwreiddiol o bob un o’r canlynol:

  • un ID gyda llun
  • un prawf o gyfeiriad
  • un prawf arall o hunaniaeth

Efallai y gofynnir cwestiynau i chi i gadarnhau pwy ydych os na dderbynnir eich ID neu ddogfennau.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English)

ID Gyda Llun

Gall hyn gynnwys unrhyw un o’r canlynol:

  • pasbort o unrhyw wlad
  • trwydded yrru cerdyn-llun (llawn neu dros dro)
  • cerdyn adnabod y GIG gyda sglodyn biometrig
  • cerdyn adnabod y lluoedd arfog neu’r heddlu
  • cerdyn PASS (Cynllun Safonau Prawf Oedran Cenedlaethol)
  • trwydded breswylio biometrig (BRP) yn dangos bod hawl gennych i aros yn y DU am 6 mis neu fwy
  • cerdyn adnabod gwladolyn tramor (ond nid cardiau adnabod a gyhoeddwyd o dan Gynllun Hunaniaeth Cenedlaethol y DU)
  • dogfen statws mewnfudo neu ddogfen deithio arall yn dangos bod gennych hawl i aros yn y DU am gyfnod amhenodol
  • tystysgrif brodori fel dinesydd Prydeinig, sy’n dangos bod gennych hawl i weithio yn y DU
  • trwydded yrru cerdyn-llun tramor gyda thrwydded yrru ryngwladol, yn ddilys am hyd at 12 mis o’r dyddiad y daethoch i’r DU
  • trwydded breswylio, tystysgrif gofrestru neu ddogfen arall yn dangos eich hawl i fyw yn barhaol yn y DU, os ydych yn ddinesydd yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
  • cerdyn preswylio parhaol a roddwyd i aelod o deulu gwladolyn o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein

Prawf o gyfeiriad

Gall hyn gynnwys unrhyw un o’r canlynol:

  • bil ffôn symudol, ffôn llinell daearol, nwy, dŵr neu drydan sydd wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • cyfriflen banc, cymdeithas adeiladu, cerdyn credyd neu undeb credyd, sydd wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • datganiad Treth Gyngor cyfredol
  • trwydded yrru cerdyn-llun lawn neu dros dro y DU (os nad yw eisoes wedi’i defnyddio fel ID gyda llun)
  • trwydded yrru bapur lawn y DU
  • dogfennau cofrestru cerbyd
  • eich hysbysiad treth diweddaraf gan CThEF (er enghraifft, asesiad treth, datganiad o gyfrif, hysbysiad codio)
  • unrhyw ohebiaeth arall gan CThEF (ond nid P45 neu P60)
  • datganiad morgais
  • llythyr gan eich cyflogwr
  • llythyr gan ysgol, coleg neu brifysgol
  • polisïau yswiriant adeiladau, cynnwys neu gerbydau
  • polisïau yswiriant bywyd neu yswiriant
  • cerdyn rhent y cyngor neu gytundeb tenantiaeth
  • prawf o’r gofrestr etholiadol eich bod yn byw yn y cyfeiriad
  • datganiad cyfrif benthyciad personol
  • dogfennau benthyciad myfyrwyr
  • llythyr gan gyfrifydd neu gyfreithiwr
  • tystysgrif gan gyflenwr cyfleustodau yn dangos eich bod yn defnyddio trefniant rhagdalu yn eich cyfeiriad, wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf

Prawf pellach o hunaniaeth

Gall hyn gynnwys unrhyw un o’r canlynol:

  • cerdyn debyd, credyd neu siop cyfredol gyda datganiad yn cadarnhau’r manylion ar y cerdyn
  • P45 neu P60
  • llyfr cyfrif cynilo
  • llyfr siec personol

Neu unrhyw un o’r canlynol os nad yw wedi cael ei ddefnyddio eisoes i brofi eich cyfeiriad:

  • bil ffôn symudol, ffôn llinell daearol, nwy, dŵr neu drydan wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • cyfriflen banc, cymdeithas adeiladu, cerdyn credyd neu undeb credyd, wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • datganiad Treth Gyngor cyfredol
  • slip cyflog neu ddatganiad pensiwn cyfredol neu ddiweddar, wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • eich hysbysiad treth diweddaraf gan CThEF (er enghraifft, asesiad treth, datganiad cyfrif, hysbysiad codio)
  • dogfennau benthyciad myfyrwyr
  • datganiad morgais
  • cerdyn rhent y cyngor neu gytundeb tenantiaeth
  • datganiad cyfrif benthyciad personol
  • polisïau yswiriant adeiladau, cynnwys neu gerbydau
  • polisïau yswiriant bywyd neu yswiriant
  • tystysgrif gan gyflenwr cyfleustodau yn dangos eich bod yn defnyddio trefniant rhagdalu yn eich cyfeiriad, wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf

Gellir defnyddio biliau cyfleustodau fel prawf o gyfeiriad ac fel prawf adnabod pellach os ydynt gan gyflenwyr gwahanol.