Cymryd cerbyd y tu allan i’r DU

Sgipio cynnwys

Trethi os ydych yn prynu cerbyd newydd i’w gymryd dramor

Os prynwch gerbyd newydd neu ail gerbyd i’w gymryd allan o’r DU, efallai na fydd yn rhaid ichi dalu TAW y DU na threthi cerbydau fel y ffi gofrestru.

Mae’r hyn rydych yn ei dalu a sut rydych yn ei dalu yn dibynnu ar i ble rydych yn allforio ac o ble rydych yn allforio.

Allforio eich cerbyd gyda’r Cynllun Allforio Personol

Mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio’r Cynllun Allforio Personol i gymryd cerbyd newydd neu ail-law:

  • o Brydain i unrhyw le y tu allan i’r DU
  • o Ogledd Iwerddon i wlad y tu allan i’r UE

Pan fyddwch yn prynu cerbyd newydd ac yn allforio o dan y cynllun, nid ydych yn talu TAW y DU. Ond mae’n rhaid ichi dalu trethi cerbyd a’r ffi gofrestru o hyd.

Rhaid eich bod yn bwriadu gadael y DU am o leiaf 6 mis gyda’r cerbyd. Fel arfer mae’n rhaid ichi fod yn gyrru’ch cerbyd yn bersonol.

Beth sydd angen ichi ei wneud

Llenwch ffurflen VAT 410 (bydd eich cyflenwr yn rhoi copi ichi) a’i rhoi i’ch cyflenwr.

Gallwch yrru’r cerbyd yn y DU am hyd at 6 mis ar ôl y dyddiad dosbarthu (neu 12 mis ar gyfer preswylwyr nad ydynt yn byw yn y DU a’r tu allan i’r UE) - rhaid iddo wedyn gael ei allforio.

Mae dyddiad allforio’r cerbyd i’w weld ar y VX302 (ar gyfer ceir newydd) neu’r VAT 410 (ar gyfer ceir ail-law).

Ar ôl allforio anfonwch y canlynol i DVLA:

  • VX302 - cerbydau newydd
  • V5CW - cerbydau ail law

Os na fyddwch yn allforio’r cerbyd ar amser bydd yn rhaid ichi dalu TAW y DU.

Allforio eich cerbyd o Ogledd Iwerddon i’r UE

Os byddwch yn prynu cerbyd newydd yng Ngogledd Iwerddon i’w gymryd i wlad yn yr UE, nid oes rhaid ichi dalu TAW y DU os:

  • ydych yn cymryd y cerbyd allan o’r DU o fewn 2 fis
  • nad ydych yn gyrru’r cerbyd yn y DU oni bai eich bod yn ei gofrestru a’i drethu

Bydd eich cyflenwr yn eich gorfodi i lenwi ffurflen VAT 411.

Bydd yn rhaid ichi ddatgan eich cerbyd a thalu TAW yn y wlad arall pan fyddwch yn cyrraedd yno.