Cynhaliaeth plant os yw rhiant yn byw dramor

Sgipio cynnwys

Os yw’r rhiant arall yn byw dramor

Mae sut y cewch benderfyniad ynghylch cynhaliaeth plant yn dibynnu ar p’un a yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad lle mae Cydorfodi Gorchmynion Cynhaliaeth (REMO) yn berthnasol. Gwiriwch y rhestr o wledydd REMO .

Os nad yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad REMO, ceisiwch gyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr i gael gwybod a allwch orfodi’r penderfyniad ai peidio.

Os yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad REMO

Sut i wneud cais

Os yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad REMO, cysylltwch â’r Ganolfan Fusnes Gorfodi Cynhaliaeth (MEBC) drwy’r post neu e-bost.

Bydd y MEBC yn gofyn cwestiynau i chi i wirio eich bod yn gymwys. Os ydych yn gymwys, byddant yn anfon ffurflen gais a chanllawiau atoch i’ch helpu i wneud cais.

Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y bydd angen i chi fynychu gwrandawiad llys yn y DU neu dalu ffi’r llys. Bydd eich canllawiau ategol yn esbonio hyn yn fanylach.

Dywedwch wrth y MEBC os nad ydych eisiau i’r rhiant arall weld gwybodaeth benodol amdanoch chi, fel eich cyfeiriad.

Llenwch y ffurflen a’i hanfon yn ôl i’r MEBC gydag unrhyw ddogfennau ategol.

Cysylltwch â’r MEBC os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Ar ôl ichi wneud cais

Bydd eich cais wedi’i lenwi yn cael ei anfon i’r llys yn y wlad lle mae’r rhiant arall yn byw.

Yna bydd y llys tramor yn penderfynu a ddylid talu (‘dyfarnu’) cynhaliaeth plant ai peidio. Gall hefyd benderfynu a ddylid gorfodi’r taliad ai peidio.

Gallwch gysylltu â’r MEBC i gael gwybod sut mae eich cais yn mynd rhagddo. Peidiwch â chysylltu â’r llys tramor.

Cysylltu â’r Ganolfan Fusnes Gorfodi Cynhaliaeth (MEBC)

Pan fyddwch yn cysylltu â’r MEBC, dywedwch wrthynt beth yw:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad e-bost
  • eich rhif ffôn
  • rhif yr achos, os oes gennych un

Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf, bydd angen i chi hefyd ddweud wrthynt:

  • ym mha wlad yr ydych yn byw
  • ym mha wlad y mae’r rhiant arall yn byw

Canolfan Fusnes Gorfodi Cynhaliaeth
Triton House
St Andrews Street North
Bury St Edmunds
Suffolk
IP33 1TR

Dim ond un MEBC sydd yna yn awr ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae MEBC Cymru a MEBC Llundain wedi cau.