Cywiro cyfraniadau Yswiriant Gwladol a ordalwyd gan gyflogai
Newidiodd cyfraddau Yswiriant Gwladol ar 6 Tachwedd 2022. O ganlyniad i hyn, mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud cywiriad i gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn os ydych yn gyflogwr a bod y ddau beth canlynol yn wir:
-
gwnaethoch dalu eich cyflogai ar neu ar ôl 6 Tachwedd 2022
-
nid oedd eich meddalwedd cyflogres wedi’i diweddaru i ddefnyddio’r gyfradd Yswiriant Gwladol (yn Saesneg) newydd pan wnaethoch y taliad