Taliadau Debyd Uniongyrchol treth cerbyd
Os bydd Debyd Uniongyrchol yn methu
Bydd deiliad y cyfrif Debyd Uniongyrchol yn derbyn e-bost gan DVLA os bydd taliad yn methu oherwydd nad oes digon o arian yn y cyfrif.
Bydd DVLA yn ceisio cymryd y taliad eto o fewn 4 diwrnod gwaith. Os bydd hynny hefyd yn methu, byddwch yn derbyn e-bost yn dweud wrthych:
- bod y Debyd Uniongyrchol wedi methu ddwywaith ac wedi’i ganslo’n barhaol
- nad yw eich cerbyd wedi ei drethu rhagor
Beth i’w wneud os caiff eich Debyd Uniongyrchol ei ganslo
Bydd yn rhaid ichi drethu eich cerbyd gan ddefnyddio llyfr log eich cerbyd (V5CW). Bydd angen ichi naill ai:
- sicrhau bod digon o arian yn eich cyfrif a sefydlu Debyd Uniongyrchol newydd
- defnyddio dull talu newydd, er enghraifft, cerdyn debyd neu Ddebyd Uniongyrchol o gyfrif arall gyda digon o arian ynddo
Mae’n anghyfreithlon i yrru’ch cerbyd nes eich bod wedi ei drethu.
Os na wnewch chi unrhyw beth
Byddwch yn cael dirwy o £80 os na fyddwch yn trethu eich cerbyd neu’n dweud wrth DVLA ei fod oddi ar y ffordd. Bydd yn rhaid ichi hefyd dalu am yr amser na chafodd ei drethu.
Os na fyddwch yn talu eich dirwy mewn pryd, gall eich cerbyd gael ei glampio neu ei falu, neu gall eich manylion gael eu trosglwyddo i asiantaeth casglu dyledion.