Dirwyon a llythyrau gyrru pan nad ydych yn berchen ar y cerbyd
Dychwelwch y llythyr dirwy at y sefydliad a’i anfonodd atoch a dweud wrthyn nhw nad ydych yn berchen ar y cerbyd. Cadwch gopi o unrhyw beth rydych chi’n ei anfon.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Roeddech chi’n arfer bod yn berchen ar y cerbyd
Anfonwch gopi o’r llythyr a anfonodd DVLA atoch pan wnaethoch werthu’r cerbyd i gadarnhau nad chi yw’r ceidwad cofrestredig bellach.
Os nad oes gennych y llythyr gan DVLA
Ysgrifennwch i DVLA i ofyn am brawf nad chi yw’r ceidwad cofrestredig bellach.
Yn eich llythyr i DVLA dylech gynnwys:
- rhif cofrestru, gwneuthuriad a model y cerbyd
- union ddyddiad gwerthu neu drosglwyddo’r cerbyd
- enw a chyfeiriad yr unigolyn y gwnaethoch ei werthu neu ei drosglwyddo iddo
Bydd DVLA yn anfon llythyr newydd atoch o fewn 4 wythnos.
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ
Dydych chi erioed wedi bod yn berchen ar y cerbyd
Os nad ydych erioed wedi bod y ceidwad cofrestredig, ysgrifennwch i DVLA i ofyn am brawf nad chi yw’r ceidwad cofrestredig. Rhowch gymaint o wybodaeth iddyn nhw am y cerbyd â phosibl.
Bydd DVLA yn diweddaru ei chofnodion ac yn anfon llythyr cadarnhau atoch o fewn 4 wythnos.
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ