Dod â phartneriaeth sifil i ben
Cyn ichi wneud cais
Rhaid i chi benderfynu p’un a ydych eisiau gwneud cais ar y cyd gyda’ch partner ynteu gwneud cais ar eich pen eich hun.
Fel arfer mae’n cymryd o leiaf 6 mis i ddod â phartneriaeth sifil i ben. Mae hyn yr un peth ar gyfer ceisiadau ar y cyd a cheisiadau unigol.
Gwneud cais ar y cyd gyda’ch partner
Gallwch wneud cais ar y cyd os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- mae’r ddau ohonoch yn cytuno y dylech ddod â’ch partneriaeth sifil i ben
- nid ydych mewn perygl o gam-drin domestig
Bydd arnoch angen penderfynu os ydych eisiau gwneud cais ar-lein neu drwy’r post. Bydd eich partner angen defnyddio’r un dull i wneud cais.
Bydd rhaid i’r ddau ohonoch gadarnhau ar wahân eich bod eisiau parhau gyda’r cais ym mhob cam o’r broses.
Os yw eich partner yn rhoi’r gorau i ymateb, byddwch yn gallu parhau gyda’r cais fel yr unig geisydd.
Os ydych eisiau gwneud cais am help i dalu’r ffi, rhaid i’r ddau ohonoch fod yn gymwys.
Gwneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben ar eich pen eich hun
Gallwch wneud cais unigol os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- nid yw eich partner yn cytuno i ddod â’r bartneriaeth sifil i ben
- nid ydych yn meddwl y bydd eich partner yn cydweithredu neu’n ymateb i hysbysiadau gan y llys
Bydd rhaid ichi gadarnhau eich bod eisiau parhau gyda’r cais ym mhob cam o’r broses.