Dod o hyd i dystysgrif ynni

Dod o hyd i dystysgrif ynni ar gyfer eiddo yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys cartrefi, eiddo busnes ac adeiladau cyhoeddus.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ddod o hyd i’r canlynol:

  • tystysgrif perfformiad ynni (EPC)
  • tystysgrif ynni i’w harddangos (DEC) ar gyfer adeilad cyhoeddus
  • tystysgrif ac adroddiad arolygu aerdymheru

Os nad oes gan eich eiddo dystysgrif ynni neu os yw wedi dod i ben, gallwch gael tystysgrif ynni newydd.

Gallwch chwilio am dystysgrif yn ôl cod post, enw stryd a thref, neu rif tystysgrif.

Dechrau nawr

Beth mae angen i chi wybod

Cael help i ddod o hyd i dystysgrif ynni

Os oes arnoch angen help i ddod o hyd i dystysgrif neu adroddiad ynni, cysylltwch â’r Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC).

dluhc.digital-services@levellingup.gov.uk
Ffôn: 020 3829 0748
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am daliadau am alwadau