Dod o hyd i fanylion cyswllt pensiwn
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddod o hyd i fanylion cyswllt i chwilio am bensiwn sydd ar goll.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer:
- eich cynllun pensiwn gweithle neu bensiwn personol
- cynllun rhywun arall os oes gennych eu caniatâd
Ni fydd y gwasanaeth hwn yn dweud wrthych os oes gennych bensiwn na beth yw ei werth.
Rydych angen enw cyflogwr neu ddarparwr pensiwn er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn.
Mae’r gwasanaeth ar-lein hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Ffyrdd eraill o wneud cais
Gallwch hefyd ofyn am fanylion cyswllt gan y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn dros y ffôn neu trwy’r post. Ni allant ddweud wrthych a oes gennych bensiwn, neu beth yw ei werth.
Gwasanaeth Olrhain Pensiwn
Ffôn: 0800 731 0175
O’r tu allan i’r DU: +44 (0)191 218 7777
Ffôn testun: 0800 731 0456
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0175
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
The Pension Service
Post Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1AF
United Kingdom