Elusennau a threth
Adennill treth
Os cewch incwm gyda threth wedi’i didynnu oddi wrtho, er enghraifft rhoddion y gallwch hawlio Rhodd Cymorth (yn Saesneg) arnynt, gallwch ei hawlio’n ôl:
- ar-lein, gan ddefnyddio’r gwasanaeth Elusennau Ar-lein (yn Saesneg)
- drwy feddalwedd sy’n gweithio gydag Elusennau Ar-lein (yn Saesneg)
- drwy’r post, gan ddefnyddio ffurflen ChR1 – ffoniwch ein llinell gymorth i’w harchebu
Llog banc
Gallwch drefnu cael llog heb i dreth gael ei didynnu oddi wrtho. Dangoswch eich llythyr o gydnabyddiaeth gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) i’ch banc.
Os yw treth eisoes wedi’i didynnu oddi wrth eich llog, gallwch ei hawlio’n ôl am y canlynol:
- y flwyddyn dreth bresennol drwy ofyn i’ch banc
- blynyddoedd treth blaenorol drwy ei hawlio gan CThEF