Gohirio eich Yswiriant Gwladol

Mae’n bosibl y gall cyflogeion sydd â mwy nag un swydd gael caniatâd i ohirio (oedi) talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar eu swyddi eraill.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gall gohirio talu eich helpu i osgoi talu gormod o Yswiriant Gwladol mewn blwyddyn dreth. Mae hyn oherwydd bod cyfyngiad ar y swm o Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y mae angen i gyflogeion sydd â mwy nag un swydd ei dalu. 

Os cewch ganiatâd i ohirio’ch taliadau, byddwch yn talu’r canlynol:

  • cyfradd is ar rai o’ch enillion
  • unrhyw beth sydd arnoch o hyd ar ddiwedd y flwyddyn dreth os nad ydych wedi talu digon o Yswiriant Gwladol

Sut i fod yn gymwys

Mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 gyda mwy nag un cyflogwr ac ennill yn fwy na swm penodol. 

Os oes gennych 2 swydd, bydd angen i chi ennill y canlynol yn ystod y flwyddyn dreth: 

  • £967 neu fwy yr wythnos o un swydd  
  • £242 neu fwy yr wythnos o ail swydd

Os oes gennych fwy na 2 swydd, mae angen i chi ennill y canlynol mewn blwyddyn dreth:

  • £1,209 neu fwy yr wythnos o 2 o’r swyddi hynny  
  • £242 neu fwy yr wythnos yn eich swyddi eraill

Os cewch ganiatâd i ohirio talu, byddwch yn talu cyfradd is o 2% ar eich enillion wythnosol rhwng £242 a £967. Byddwch yn talu hyn yn lle’r gyfradd safonol yn un o’ch swyddi (neu ar gyfer sawl swydd os oes gennych fwy na 2).

Os ydych yn hunangyflogedig 

Ni allwch ohirio cyfraniadau Dosbarth 4

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ad-daliad ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.

Sut i wneud cais

I wneud cais ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025, darllenwch y nodiadau arweiniad ac anfonwch ffurflen CA72A (yn agor tudalen Saesneg)

Mae’n rhaid i’ch cais ddod i law Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn 14 Chwefror 2025. 

Ar ôl i chi wneud cais 

Bydd CThEF yn ystyried eich cais ac mae’n bosibl y bydd yn gofyn i chi anfon slipiau cyflog.

Os cewch ganiatâd i ohirio 

Bydd CThEF yn rhoi gwybod y canlynol i chi:

  • gyda pha un o’ch cyflogwyr y bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (eich prif gyflogwr)
  • pa gyflogwyr y bydd modd i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar y gyfradd is o 2% â nhw (bydd CThEF hefyd yn anfon ‘tystysgrif ohirio’ at y cyflogwyr hynny sy’n rhoi gwybod iddynt i ddidynnu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar y gyfradd is)

Ni fydd CThEF yn rhoi unrhyw wybodaeth i’ch cyflogwyr ynghylch eich swyddi eraill. 

Os na chewch ganiatâd i ohirio 

Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i egluro pam.

Os bydd newid yn eich amgylchiadau 

Os cewch ganiatâd i ohirio, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF os bydd eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft os bydd y canlynol yn berthnasol:

  • bod unrhyw swydd yn dod i ben 
  • rydych yn dechrau swydd arall
  • rydych yn symud cartref

Mae hyn er mwyn eich bod yn talu’r gyfradd gywir o Yswiriant Gwladol ar bob un o’ch swyddi.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth 

Bydd CThEF yn gwirio a ydych wedi talu digon o Yswiriant Gwladol ac yn ysgrifennu atoch os oes arnoch unrhyw beth. 

Talwch drwy anfon slip talu a siec i CThEF:

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid CThEF
HMRC
Y Deyrnas Unedig
BX9 1ST

Os nad oes gennych slip talu, mae angen i chi gynnwys llythyr sy’n nodi: